NLW MS. Peniarth 11 – page 142r
Ystoriau Saint Greal
142r
y vot yn ỻawen. Ac yna gỽalchmei a|edrychaỽd y myỽn. ac a argan+
vu yno dwy vorwyn ieuanc a|deu was gyt ac ỽynt. ac ef a|welei vab
ieuanc yn marchogaeth ỻeỽ. ac ar hynny ỽynt a|aethant y eisted y|r
herber. Arglỽyd heb y meudỽy ỻyma ystyr vy ỻewenyd i. Ac ar hyn+
ny gỽalchmei a|beris tynnv y arueu y ymdanaỽ. ac odyna vn
o|r morynyon a|duc idaỽ diỻat o|e gỽisgaỽ. Ryued vu gan walch·mei
welet y mab yn marchogaeth y ỻeỽ. a|r meudỽy a|dywaỽt ỽrth wal+
chmei na|lyuassei neb warchadỽ y ỻeỽ onyt y mab. ac nyt oes idaỽ
o|oet namyn seith|mlwyd. a mab bonhedic yỽ. ac nyt oes yn yr hoỻ
vyt Marchaỽc creulonach no|e|dat ef. a|e henỽ yỽ marius eidic. y
gỽr a|ladaỽd y vam o achaỽs gỽalchmei. ac yr hynny hyt hediỽ ny
mynnaỽd y mab drigyaỽ gyt a|e|dat. am wybot ohonaỽ lad|y|vamm
yn wirion. ac ewythyr idaỽ ỽyf|i vraỽt y vamm. ac yd ỽyf yn peri y|r
deu was ac y|r dỽy vorỽyn racko synnyeit arnaỽ ual y gỽely|di. ac
nyt oes dim yn|yr hoỻ vyt kyn chwannocket ganthaỽ ef y welet
a gỽalchmei. ac o|r|gỽdost di chwedleu newyd y ỽrthaỽ ef yr mỽyn
duỽ dywet ymi. Gỽnn myn vyng|cret heb·y gỽalchmei. weldy
racko y|daryan ef a|e waeỽ. ac ynteu e|hun keis heno yn ỻettyaỽ
yma. arglỽyd heb y meudỽy ae tydi yỽ ef. veỻy y|m gelwir i|heb+
y gỽalchmei. a|r wreic a dywedy di mi a|weleis y ỻad hi geyr vym
bronn. a|duỽ a|wyr nat o|m bod i y ỻadwyt hi. Yna y meudỽy a
dywaỽt ỽrth y mab. dos yma heb ef. weldyma walchmei dy dam+
unet ti. dabre attaỽ a gỽna idaỽ lewenyd. Y mab yna a|disgynna+
ỽd y ar y ỻeỽ. ac a|e roes y|myỽn seler. ac odyna ef a|doeth att w+
alchmei. ac a|gyuarchaỽd gỽeỻ idaỽ. Duỽ a ro kynnyd arnat
heb·y gỽalchmei. ac odyna ymgussanu a|orugant. Arglỽyd ~
« p 141v | p 142v » |