NLW MS. Peniarth 11 – page 199v
Ystoriau Saint Greal
199v
a dywedassei na aỻei neb y nerthau onyt dyn idi e|hun. A
marchogaeth a|oruc hi yny doeth y lynn camalot ac yny
welei y casteỻ. Ac ar hynny hi a|arganuu baredur yn|dyuot
o|r fforest. ac yn|edrych ar gasteỻ y vam. ac ar y wlat o bop parth
idaỽ. a digrif vu ganthaỽ a|thec y gỽelet. Ac ar hynny y vorỽ+
yn a|doeth attaỽ. ac a|dywaỽt. arglỽyd heb hi mi a|vum myỽn
perigyl maỽr gỽedy vy mynet y ỽrthyt ti. a mi a|giglef chỽ+
edleu doluryus y|m mam i ac y minneu heuyt. kanys bren+
hin peleur vy ewythyr a|vu varỽ. a|r brenhin o|r casteỻ marỽ
a|aeth ym medyant y eidaỽ ef. a|e lys. Eissyoes gỽeỻ y dyly+
ei vy mam y gael ef noc efo. kanys hynny yỽ. Ae gỽir heb+
y paredur y varỽ ef. Gỽir myn|ỻaỽ duỽ heb hitheu. Myn vyng
cret heb·y paredur drỽc yỽ gennyf|i hynny. ac ny thebygassỽn i
y varỽ ef mor ehegyr a hynny. Arglỽyd heb yr vnbennes trist
ỽyf o|th achaỽs di. kanys ef a|dywetpỽyt ym. nat oed na che+
dernit na milỽryaeth a|aỻei ym chweith ỻes ony bei gael vy
mraỽt i. ac ueỻy y coỻassam ni yn cỽbyl os gỽir. kanys nyt
hỽy yr oet noc hyt ym penn y pymthecuet dyd o hediỽ. ac ny
ỽnn inneu pa le y keissyaf|i efo rac nesset yr oet. Ac am hynny
reit vyd ym gadaỽ y casteỻ gyntaf ac y gaỻom. a gỽae|vi
nat yttiỽ vy mam y·gyt a brenhin peles. kanys nyt oes ym
chweith canhorthỽy onyt euo. Paredur a|oed yn|tewi ac yn
dost ganthaỽ warandaỽ ar hynny yn|y vedỽl. a|hitheu dan
wylaỽ a|dangosses idaỽ ef y glynn a|r casteỻ a|r gỽeirglodyeu
a|r fforestyd. Arglỽyd heb hi kỽbyl o hynn racko a|duc arglỽ+
yd y corsyd y gan vy mam i. ac nyt oes arnaỽ chwant kyme+
int a chael y casteỻ idaỽ e|hun. Ac yna marchogaeth a|oruc ef.
« p 199r | p 200r » |