NLW MS. Peniarth 11 – page 57r
Ystoriau Saint Greal
57r
yn kaffael ch·weith antur. A glyweist ditheu heb ef y ỽrth
laỽnslot vn chwedyl. Nys|gỽyr duỽ ymi y glybot y ỽrthaỽ
mỽy no phei elei y|r daear. ac am|hynny y|mae arnaf|i o+
vyn y vot ef yn ryỽ le yng|karchar. A glyweist ditheu
dim y ỽrth beredur. na galaath. na bỽrt. Ny wyr|duỽ ym
glybot ychweith y|ỽrthunt. y pedwar hynny yssyd heb
wybot o neb dim y ỽrthunt. Gỽedy eu|bot ueỻy yn hir yn
ymdidan. ector a dywaỽt. Gwalchmei heb ef ti a varchoc+
keist dalym dy hun. a|minneu heuyt a|wneuthum ueỻy.
Marchocaỽn beỻach an deu y edrych a|gyfarffo am dim ~
Aỽn ninneu heb y gỽalchmei. a|duỽ a|n danuono y le y
kaffom ryỽ damwein y rangho yn|bod. Ector yna a|dyw+
aỽt. arglỽyd heb ef fford y kerdeis J nyt oes yno vn antur
na|r fford y doethost ditheu heuyt. ac am hynny keissyỽn
fford|araỻ a|uo amgenach. Da yỽ gennyf|i hynny heb y gw+
alchmei. Ac yna kerdet a|orugant hỽy y fford draỽs a|oed yn|y
glynn ỻe yd ymgyfaruuant. Ac ueỻy marchogaeth a|orugant
ar vntu drỽy y fforestyd wyth niwarnaỽt heb gael neb ryỽ an+
tur. a|diwarnaỽt yd oedynt yn marchogaeth heb gyuaruot
ac ỽynt na gỽr na gwreic. A|r nos honno ỽynt a|doethant
rỽng deu vynyd. ac yno ỽynt a|welsant hen gapel heb neb yn+
daỽ. a|gỽedy eu|dyuot yno ỽynt a|disgynnassant. ac a adaỽssant
eu gỽaewyr a|e taryaneu aỻan. ac a dynnassant y ffrỽyneu o
benneu eu meirch. ac a|doethant y|r capel. ac a|wediassant du+
ỽ ual y dylyei gristonogyon da y wneuthur. A|gỽedy daruot
˄udunt dywedut eu gỽedieu ỽynt a|aethant y eisted. ac y ymdidan ~
« p 56v | p 57v » |