NLW MS. Peniarth 11 – page 86r
Ystoriau Saint Greal
86r
pa natur oed y wreic lidiaỽ gỽr mor vynych ac y gỽnaei hi.
Ac ar hynny ef a|glywei lef yn dywedut ỽrthaỽ. Selyf selyf heb
ef. o doeth tristit o wreic nyt reit y ryuedu. kanys ef a|daỽ
gỽreic etto y keffir y cant kymeint o lewenyd ac yd ydys yr aỽr+
honn yn|y gael o dristit. A|r|wreic honno a|enir o|th lines di.
Pan gigleu selyf hynny ef a|e kymerth e|hun yn ỻe ffol am
gerydu y wreic. Ac yna ef a ystudyaỽd yn|ỻyfreu y proffỽydi
ac a vedylyaỽd yn|y hun ac odieithyr y hun y edrych a|aỻei wy+
bot pa vn vydei diwed y genedylaeth ef. a chymeint vu y lavur
ef yn ystudyaỽ ac yd eglurhaaỽd yr yspryt glan idaỽ yr antur
am yr ogonedus ueir. Ac y dywaỽt idaỽ beth y ỽrth hynny a
deuei rac ỻaỽ. a|phan gigleu ef dywedut y bydei yr arglwydes
ueir. ynteu yna a ovynnaỽd ae hyhi vydei diwed y genedylyaeth
ef. Nac ef heb y ỻef gỽr gỽyry o|e gorff vyd diwed dy genedyly+
aeth di. a hỽnnỽ a|ragora dy genedyl di a chenedyl pob dyn o
vilwryaeth yn gymeint ac y ragora y wyry veir rac gỽreic
o|r|byt. a|ỻyna vi wedy eglurhau ytti yr hynn y|th weleis yn
betrus o·honaỽ. Pan gigleu selyf hynny ỻawen vu am gly+
bot bot mor rac·werthuaỽr a|hynny diwed y genedylyaeth ef
Ac yna selyf a vedylyaỽd pa|delỽ y gaỻei peri y|r marchaỽc diw+
ethaf o|e genedylaeth ef adnabot y vot yn rybucho idaỽ anrec care+
dic erbyn y|dyuotyat. Ac nyt yttoed selyf yn gỽybot pa ffuryf y gaỻ+
ei wneuthur peth a|barhaei yn|gyhyt a|hynny. na pha ffuryf y
gaỻei y marchaỽc hỽnnỽ ynteu y gaffael gỽedy as|gỽnelit. Ac
yna y wreic ef a|adnabu y vedỽl a bot yn anhaỽd idaỽ dyuot y
benn ac ef. a|phan weles hi aỽr da arnaỽ ef hi a|e gỽediaỽd ar|dy+
wedut
« p 85v | p 86v » |