NLW MS. 3035 (Mostyn 116) – page 204r
Brut y Tywysogion
204r
y vlỽydyn honno y grawys yd ymhoelaỽd thomas escob myniỽ
o lys rufein. Y|vlỽydyn racỽyneb yd ymhoelaỽd lowis vrenhin
freinc o|e bererindaỽt wedy y vot whe|blyned yn ymlad a|r
sarasinyeit. Y|vlỽydyn honno yd|ymchoelaỽd henri vrenhin o
wasgỽyn|wedy adaỽ yno etwart y|vab yn kadỽ a|diruaỽr lu
ygyt ac ef. ac yna y|bu varỽ gỽenỻian verch vaelgỽn jeuanc
yn ỻan vihagel gelynrot ac y cladỽẏt yn ystrat flur. Y|vlỽy+
dyn rac·ỽyneb y bu varỽ Meredud ap ỻywelyn. o veironyd gan adaỽ
vn mab yn eti·ued idaỽ o|wenỻian verch vael·gỽn ac yn ebrỽyd
wedy gỽyl jeuan y|bu varỽ rys vn mab maelgỽn jeuanc wedy
kymrẏt abit crefyd yn ystrat flur ac yno y|cladỽẏt. Y|dydyeu
hyny o anoc y|kythreul y|magỽyt teruysc yrỽg meibon gruffud
ap. ỻywelyn. nyt amgen ywein goch a dauid o|r neiỻtu a|ỻywelyn|o|r
tu araỻ. ac yna yd aruoỻes. ỻywelyn. a|e wyr yn diofyn ym|bryn
derỽin drỽy ymdiret y duỽ. creulaỽn dyuotyat y vrodẏr
a|diruaỽr lu gantunt a|chyn pen vn aỽr y delit ywein goch
ac y|ffoes. dauid. wedy ỻad ỻawer o|r ỻu a|dala ereiỻ a fo y dryỻ araỻ.
ac odyna y karcharỽẏt ywein ac y goresgynaỽd. ỻywelyn. gyuoeth
ywein a|dauid. Y|vlỽydẏn hono y|bu varỽ maret verch vaelgỽn
gỽreic ywein ap rotbert. ac y|prynỽyt y gloch vaỽr yn ystrat
flur yr trugein a|dỽy vorch ar|bymthec ar|hugeint a dỽy vu
ac yn|y ỻe y drychafỽyt ac y kysegrỽyt y gan escob bangor
ac yna am·gylch diwed haf y bu varỽ tom·as walis escob myniỽ
Y vlỽydyn racỽyneb y doeth etwart vab henri vrenhin jarỻ
kaer ỻeon y edrych y gestyỻ a|e dired yg|gỽyned. ac yna y doeth
dylyodogyon kymry at. ỻywelyn. ap gruffud. wedy y|hyspeilaỽ o|e rydit
a|e keithiwaỽ a|menegi yn gỽynuanus bot yn|weỻ gantunt
y ỻad yn ryfel dros y rydit no godef y|sathru gan estronyon.
« p 203v | p 204v » |