NLW MS. Peniarth 11 – page 233r
Ystoriau Saint Greal
233r
nỽyl. ac ỽynt a geffynt les maỽr o|e achaỽs. Gỽedy hynny y
gỽr a ymchoelaỽd dra|e|gevyn. a|r ỻeiỻ a vagassant y mab yn
anrydedus ac a|e carassant yn vaỽr yny vu grynffast maỽr.
gỽedy hynny ỽynt a|e hanuonassant ef y ruuein hyt att y pap.
a|dangos y|r pap a|wnaethant ỽy y ỻythyreu inseiledic. a|r pap
a weles ac a|wybu y vot yn vab y vrenhin. a|thosturyaỽ ỽrth+
aỽ a|oruc a synnyeit ar·naỽ. a|dywedut mae vn o|e rieni oed.
Gỽedy hynny ef a etholet y vot yn amheraỽdyr yn ruuein
ac ynteu a|ỽrthodes hynny rac ỻiwyaỽ y anedigaeth idaỽ
yr hynn a|gelassit yr ys|talym. Odyna ef a|doeth o|ruuein
ac a|vu yma gỽedy hynny. ac ef a|dywedir yr aỽr·honn y vot
yn vn o|r marchogyon urdolyon goreu o|r hoỻ vyt. ac am hyn+
ny ny leueis neb dyuot y vedyannu y casteỻ hỽnn rac y|ovyn
ef. kanys pan vu varỽ y gỽr bioed ef a|e gedewis y walchmei
y vab maeth. ac a|m|gỽnaeth inneu yn warcheitwat arnaỽ
yny delei walchmei yma. Y brenhin yna a edrychaỽd ar w+
alchmei ac a|e gỽeles yn gewilydyus. vy nei y tec heb·yr ar+
thur na symlet arnat ti dim o|hynn. kanys ti a|eỻy ỻiwyaỽ
y minneu y kyfryỽ ansaỽd a|honno. a|thi a|dylyut uot yn
ỻawen yr hynny. ac anrydedu yn vaỽr y lle y|th anet yndaỽ. ~
Pan wybu yr offeiryat panyỽ gỽalchmei a|oed yno ef a|vu
lawen ganthaỽ y vryt. a|chewilydyus hevyt vu am dywet+
ut ohonaỽ ar ostec megys y|dywedassei. ac a|dywaỽt. Nyt reit
ytti arglỽyd vn kewilyd heb ef kanys ef a|th deilyngwyt ti
yn ruuein myỽn priodas y·rỽng dy vam a|loch dy dat. ac ef
a|dyly arthur wybot hynny a|bendigedic vo duỽ am dy dyuo+
dyat yma.
« p 232v | p 233v » |