NLW MS. Llanstephan 27 (The Red Book of Talgarth) – page 62v
Ystoria Adrian ac Ipotis, Buchedd Dewi
62v
a|e dwylaỽ a|e ystlysseu yn waetlyt. ac am hynny kymeret ba+
ỽp duỽ gỽener yn|y gof y wneuthur molyant y duỽ yndaỽ
trỽy unprytyeu a gỽedieu. Da yỽ unprytyaỽ duỽ sadỽrn
yr mỽyn yr arglỽydes veir yr honn a nerthaỽd o dynnu
yr eneidyeu o|r poeneu. kanys hi a|elwir ffynnaỽn y druga+
red y olchi ac y brudhau paỽb o|r a alwo arnei. Arwedwreic
y wirioned y gelwir hi. ac ohonei y doeth iessu grist iachỽy+
aỽdyr y byt. Bendigedic vo y pobloed a|wassanaetho y vo+
rỽyn honno trỽy ewyỻys aduỽyndec. Mi a|th dynghedaf di
uab heb yr amheraỽdyr kynn ymadaỽ ohonat a mi. yn enỽ
y tat a|r mab a|r yspryt glan iessu grist yr hỽnn a odefawd
angeu yr yn kyuotedigaeth ni. pa beth ỽyt ti ae yspryt da
ae vn drỽc. Y mab yna a|attebaỽd idaỽ ual hynn. Mi yỽ|r
gỽr a|th oruc di. ac a|th prynaỽd yn prit. Ac yna yd esgynnaỽd
y mab y oruchelder nef. o|r|ỻe pan dathoed. Yr amheraỽdyr
yna a|ostyngaỽd ar tal y lin. a|diolỽch a|oruc y|duỽ holl·gy+
uoethaỽc yr hynt honno. a gỽedy hynny ymchoelut a|oruc
yr amheraỽdyr ar weithretoed gobrỽyaỽl. ac alussenneu
gan wneuthur gogonyant ac ardunyant yr maỽred ac
enryded y duỽ o|r nef. Ac yn|y mod hỽnnỽ y teruyna ymdidan
adrian amheraỽdyr. ac ipotis uab ysprydaỽl duỽ. aMEN
val|hynn y treythir o ach dewi. ac o beth o|e vuched a|e wyrtheu.
D *auyd uab sant. vab keredic. vab kuneda. vab edyrn.
vab padarn beisrud. vab deil. vab gordeil. vab dw+
vyn. vab gordỽvyn. vab amguoel. vab amweryt. vab o·nut.
vab pern. vab dubim. vab ongen. vab auaỻach. vab eugen.
vab eudoleu. vab chaer* veir wyry vam iessu grist. ~ ~ ~
The text Buchedd Dewi starts on line 23.
« p 62r | p 63r » |