Oxford Jesus College MS. 111 (The Red Book of Hergest) – page 251v
Brut y Saeson
251v
1010
bennaduryeit ar y saesson. ac yna y
perit eu dala oỻ ac eu rỽymaỽ. ac eu dodi
y eisted. ac eu ỻad pob naỽ. a|dianc y
decuet. a|r degỽm a dihengis a degemwyt
eilweith yn|giltffỽrt. ac am hynny y dyw+
edassei myrdin. Degỽm normandi a|ar+
gyweda. ac alvryt gwedy|r dynnu y lygeit a
dugant hyt yn eli. ac yno y bu uarỽ.
V yth mlyned a|deugeint a mil oed
oet crist. pan anuones y saesson
kennadeu a gỽystlon y normandi. yn
ol edward. ac erchi idaỽ dỽyn ychydic
o|r normanyeit y·gyt ac ef. a duỽ pasc
y doeth y|r tir. a|r dyd hỽnnỽ y coronhaỽyt
ef y gan|gilis archescob. A hỽnnỽ a
vu gyn|hegaret ac na mynnei argywe+
du y dyn yn|y byt yr|dielwet uei. Enry+
ded a wnaei y baỽp o|r deyrnas. ac ofyn+
hau estraỽn genedyl. Hỽnnỽ a priodes
edwin verch godwin chwaer haraỻt. Ac
ef a|deholes swein a chost a guhudyssit
am y dỽyỻ gyt a|godwin. ac a|edewis y
wreic. a gỽedy hynny o gynghor stigan
escob kaer wynt y doethant drachevyn.
Ac yd ymchoelaỽd y vrenhines. Ac y
deholes y brenhin Robert archescob
keint. a hoỻ ffreinc a gynghorassynt
dehol Rei ereiỻ. ac y gwnaethpỽyt sti+
gan yn archescob kaer geint. Ac y trae+
thaỽd y brenhin y vrenhines megys
y wreic priaỽt. ac ny bu gyt a|hi. ac
ny bu hebdi. Ẏna y darestynghaỽd siw+
ard tywyssaỽc yscotlont o|r tu hỽnt y
humbyr y brenhin ỻoegyr wedy ỻad
Machiot brenhin prydein. A|r deyrnas
honno a rodes edwart y moilcỽlym bren+
hin kỽmbyr o|e chynnal y·danaỽ. Y·chy+
dic ydoed lei y siward hỽnnỽ no chaỽr.
Duỽ pasc mal yd oed y brenhin yn go+
ronaỽc yn eisted ar y|bỽrd y|ngwestymyns+
tyr. ym·oỻwg a|oruc y chwerthin. a thry+
1011
wyr o wyr maỽr a|o·vynnassant idaỽ achaỽs
y chwerthinat. Ac ympenn talym yd atte+
baỽd udunt ac y dywaỽt. Seith kysgadur
a|oedynt yr ys deu cant mlyned yn kysgu ar
eu hystlys deheu. a|r aỽr honn pan chwerde+
is i yd ymchoelassant ar eu hystlys assu.
ac ueỻy y bydant bedeir blyned ar dec a|thru+
geint. ac yn hynny o amser y daỽ hynn a
dywaỽt crist. Kenedyl a|gyfyt yn erbyn
kenedyl. a|theyrnas yn erbyn teyrnas. a
chyffro maỽr a vyd ar y|dayar. Ac yna y
trywyr nyt amgen haraỻt. ac esgob ac
abat a anuonassant kennadeu a ỻythyreu
a rodyon att amheraỽdyr corstinobyl. Ha+
raỻt a anuones marchaỽc. a|r esgob ys+
golheic. a|r abat manach. A|r amheraỽ+
dyr a|e hanuones ỽynt att escob y kyfle y
dangos udunt ỻe yd|oed y|seith kyscaduR.
Y groegussyon a dyngassant ry gaffael o+
nadunt y gan eu hendateu eu bot yn
gorffowys ar eu hystlys deheu. A phann
doeth y saesson y|r ogof. ỽynt a|gat ar eu
hystlys assỽ. Ac yn|y ỻe y doeth pob peth o|r
a|dywaỽt. Pedeir blyned ar|hugeint y gỽ+
ledychaỽd. ac yn westymestyr y cladỽyt.
Oet yr arglỽyd oed yna pump mlyned
a thrugein a mil. A gwedy tyfu y wyrth+
eu a|e Rinwedeu yn yr vnuet vlỽydyn ar
bymthec o|e varỽolyaeth pann dyrchafỽyt
y gorff. y kaffat y gỽr a|e wisc yn gyfan
gyt a|diruaỽr degỽch ac arogleu da. Yna
yd oed godwin uab haraỻt tỽyỻỽr megys
gỽercheitwat ar y deyrnas a iustus. ac
mal yd|oed yn mordwyaỽ y fflandrys. ef a|e
kymheỻaỽd moraỽl tymhestyl y norman+
di. Ac yno y delit ef y gan wilym bastyr.
Ac y tyngaỽd ef y wilym bastart priodi
y verch a chadỽ y deyrnas gwedy edw+
ard. A gỽedy y oỻỽng y torres y lỽ ac
y tyngaỽd anudon. Kanys pan vu uarỽ
edward y kymerth e|hun y deyrnas drỽy
« p 251r | p 252r » |