Oxford Jesus College MS. 111 (The Red Book of Hergest) – page 39v
Brut y Brenhinoedd
39v
155
gan neỽidyaỽ agheu o|bop parth. Ac o|r
diwed gwedy treulaỽ ỻaỽer o|r dyd y
vudugolyaeth a gafas y brytanyeit.
Ac yn|yd|oedynt ladedigyon octa ac offa
dangos eu kefneu a|ỽnaeth y saeson e+
reiỻ a ffo. ac ỽrth hynny kymeint o leỽ+
enyd a|gymerth y brenhin yndaỽ. a hyt
pan gyfodes e hunan yn|y eisted ar y elor
pryt na allei kyn·no hynny heb ganhor*
dynyon ereiỻ gychỽynu. a chyn laỽe+
net vu a chyt ry delei idaỽ deissyfyt iech+
yt a hynny ymeỻỽg yn chỽerthin a
oruc. a chan diruawr lỽenyd* dywedut
yn vchel yr ymadraỽd hỽnn a|oruc.
Ẏ bratwyr heb ef a|m|gelỽynt i. brenhin
haner marỽ kanys claf oedỽn. ac
ỽrth vy arỽein i. ar|yr elor yn diamheu
veỻy yd oedỽn inheu. Eissoes gỽeỻ yỽ
genyf yn hanner marỽ goruot ar·na+
dunt. no bot yn iach ac yn vyỽ gan or+
uot arnaf inheu. ~ ~ ~ ~ ~
A gỽedy goruot ar y saeson. yr hyn+
ny ny pheidassant ỽy ac eu tỽyỻ.
namyn kyrchu gogled gỽlat+
oed yr ynys. ac ymlad a|r bobyl a|ryfe+
lu arnadunt. a|r rei hynny a vynnassei
uthur pen dragon eu|herlit pei na|s ỻu+
dyei y tyỽyssogyon. Kanys trymach
vu y heint o laỽer gỽedy hynny o bop
fford. gleỽach oedynt y gelynyon yn kei+
saỽ darestỽg y teyrnas udunt. ac ym+
rodi a orugant y eu kynefaỽt vrat ỽ+
ynt. a medylyaỽ pa|ỽed y gellynt o vrat
lad y brenhin. a gỽedy na cheffynt ansa+
ỽd araỻ ỻunyaethu a|ỽnaethant y
lad a gỽenỽyn. a hynny a|ỽnaethant
kanys hyt tra yttoed y brenhin yn se+
int alban ỽynt a|eỻygassant genadeu
yn rith achenogyon yn syỻu ansaỽd
y ỻys. vn peth a|deỽissyssant y kenadeu
y eu|brat y rei a|uuassynt yn ansaỽd
y ỻys. kanys yn agos y|r neuad yd|oed
ffynhaỽn loyỽ. ac o honno y gnottaei y
brenhin y·vet dỽfyr pryt na chaffei
vlas ar diaỽt o|lyn araỻ yn|y byt rac
y heint. ac ỽrth hynny kylch y ffynha+
156
ỽn a|wnaethant yr ysgymyn vratwyr yn
ỻaỽn o|r gỽenỽyn hyt pan lygrỽys y dỽ+
fỽr a rettei o|r ffynhaỽn. ac ỽrth hynny val
y ỻewas y brenhin y dỽfỽr hỽnnỽ Bryssedic
agheu a|e darestygaỽd. A chyt ac ynteu
ỻaỽer o dynyon ereiỻ a leỽas y dỽfyr a
vuant veirỽ. a gỽedy caffel gỽybot y
tỽyỻ hỽnnỽ. ỻanỽ y ffynhaỽn o|r dayar a|ỽ+
naethpỽyt hyt pan yttoed cruc maỽr yn
vch no|r dayar arnei. a gỽedy honni ma+
rỽolyaeth y brenhin drỽy y teyrnas. Ym+
gynuỻaỽ a|ỽnaethant yr archescyb a|r
escyb a|r abadeu a|r yscolheigon. ac ỽynt
a dugassant y gorff ef hyt y|manachlaỽc
ambyr. ac y myỽn cor y keỽri ger·ỻaỽ
emrys wledic y vraỽt yn vrenhinaỽl
arỽylant y cladyssant. ~ ~ ~ ~ ~
A gỽedy marỽ uthur pendragon yd
ymgynuỻassant hoỻ wyrda ynys
prydein Jeirỻ a barỽneit a mar+
chogyon vrdaỽl ac escyb ac abadeu ac
athraỽon hyt yg|kaer vudei. ac o|gytsy+
nyedigaeth paỽb. yd|archyssant y dyfric
archescob kaer ỻion ar ỽysc vrdaỽ ar+
thur y vab ynteu yn vrenhin. ac eu hag+
eu a|e kymhellei y hynny. kanys pan
gigleu y saeson marỽolyaeth vthur
pendragon. yd eỻygyssynt ỽynteu gena+
deu hyt yn germania y geissaỽ porth.
ac neur|dathoed ỻyghes vaỽr attunt.
A cholgrim yn|tyỽyssaỽc arnadunt. ac
neur|daroed udunt goreskyn o humyr
hyt y mor a chatyneis yn|y gogled. Sef
oed hynny y dryded rann y ynys prydein.
a gỽedy gỽelet o|dyfric archescob drue+
ni y bobyl a|e hymdiuedi. ef a|gymerth
escyb y·gyt ac ef. ac a|dodes coron y teyr+
nas am ben arthur. a phymtheg|mlỽyd
oed arthur yna. ac ny chlyỽsit ar neb
araỻ eiryoet y deuodeu o deỽred a ha+
elder a|oed arnaỽ ef. Jdaỽ ef hefyt
yd eniỻyssei y dayoni anyanaỽl a|oed
arnaỽ y veint rat honno. hyt pan|oed
garedic ef gan baỽp o|r a|glyỽei dyỽet+
ut amdanaỽ. ac ỽrth hynny gỽedy y
arderchockau ef o|r vrenhinaỽl enry+
« p 39r | p 40r » |