Oxford Jesus College MS. 111 (The Red Book of Hergest) – page 40r
Brut y Brenhinoedd
40r
157
ded hỽnnỽ. gan gadỽ ohonaỽ y gnotaedic
defaỽt a ymrodes y haelder. ac odyna
kymeint o amylder marchogyon a lith+
rei attaỽ. a megys y dyffygyei idaỽ daỽ
da y rodi udunt yn vynych. ac eissoes
py diỽ bynhac y bo haelder anyanaỽl
y·gyt a|phrofedic volyant. kyt bo eisseu
arnaỽ ar dalym. Yr hynny ny at duỽ was+
tat aghenoctit y argyỽedu idaỽ. ac
ỽrth hynny arthur kanys molyant a
getymdeithockaei haelder a dayoni. ỻu+
nyaethu ryfel a|oruc ar y saeson. hyt pan
vei oc eu golut hỽy y kyfoethogei ynteu
y teulu a|e varchogyon. Kanys iaỽnder
a dyskei hynny idaỽ. kanys ef a|dylyei
o dref·tataỽl dylyet hoỻ lywodraeth y+
nys prydein. a chynnuỻaỽ a oruc ef yr
hoỻ ieuenctit a|oed darystygedic idaỽ ef
a|chyrchu parth a chaer effraỽc. a gỽedy
gỽybot o golgrim hynny. kynuỻaỽ a|o+
ruc ynteu y saeson a|r yscotteit a|r ffich+
teit. ac y·gyt ac aneiryf luossogrỽyd
nifer gantaỽ dyuot yn erbyn arthur
hyt yg glan dulas. a gỽedy ymgyfar+
uot yna o bop parth y dygỽydassant ỻaỽ+
er o|r deulu. ac o|r diwed arthur a gafas y
vudugolyaeth. a ffo a|oruc colgrim y
dinas kaer efraỽc. arthur a|e lu a gych+
wynỽys ac a|werchetwis y gaer arnaỽ. a gỽedy
clybot o baldỽf y vraỽt ynteu hynny
ef a gyrchaỽd tu a|r ỻe yd|oed y vraỽt
yg|gỽarchae. a chỽe|mil o wyr gantaỽ
y geissaỽ y rydhau odyno. kanys yr am+
ser yd ymladyssei arthur a|e vraỽt ef
yd|oed baldỽf yna ar lan y mor yn aros
dyuot chledric o germania a|oed yn dy+
uot a|phorth gantaỽ udunt. ac ỽrth
hynny gỽedy y|dyuot ar|dec miỻtir y
ỽrth y gaer. Darparu a|oruc dỽyn kyr+
ch nos am|ben arthur a|e|lu. ac eisso+
es nyt ymgelaỽd hynny rac arthur.
Yna yd|erchis ynteu y gadỽr tyỽyssaỽc
kernyỽ kymryt whechant marchaỽc
a their mil o bedyt ygyt ac ef a my+
net yn eu|herbyn. ac eu ragot y nos
honno y fford y doynt. a gỽedy kaffel
158
o gadỽr gỽybot y fford y doynt y gelyny+
on. eu kyrchu a|oruc kadỽr yn deissyfyt
a gỽedy briỽaỽ eu bydinoed ac eu hyssi+
gaỽ a ỻad ỻaỽer o·nadunt. Kymeỻ y
saeson a oruc ar ffo. ac ỽrth hynny
diruaỽr dristyt a gofal a gymerth bal+
dỽ·f yn·daỽ ỽrth na aỻỽys eỻỽg y
vraỽt o|r gỽarch·ae yd|oed yndaỽ. a me+
dylyaỽ a|oruc py wed y gaỻei gaffel
kyffur y ymdidan a|e vraỽt. kanys ef
a|dybygei y kaffei bop un o·nadunt eỻ
deu rydit a gỽaret yn|hoỻaỽl pei kef+
fynt ymdidan ygyt. a gỽedy na chaf+
fei fford araỻ yn|y byt. Eiỻaỽ y waỻt
a|e varyf a oruc. a chymryt telyn yn|y
laỽ. ac yn rith erestyn a|gỽaryyd dy+
uot ymplith y ỻu a|r ỻuesteu. a|r clym+
eu a ganei ef a dangossynt y vot yn
telynyaỽr. Ac o|r diwed gỽedy na thyby+
gei neb y uot ef yn tywyssaỽc falst
mal yd oed. nessau a|oruc parth a
muroed y gaer dan ganu y telyn. a
gỽedy y adnabot o|r gỽyr o|vyỽn. Y
dynu a|orugant ỽrth raffeu y myỽn.
A gỽedy gỽelet ohonaỽ y vraỽt ymga+
ru a|orugant megys na ry ymwelynt
drỽy laỽer o yspeit kyn·no hynny. ac
val yd oedynt ueỻy yn medylyaỽ ac
yn keissaỽ ystryỽ py wed y geỻynt
ymrydhau odyno ac yn annobeithaỽ
o|e rydit. nachaf eu kenadeu yn|dyuot
o germania. a whechan|ỻog yn ỻaỽn
o varchogyon aruaỽc gantunt. a
chledric yn dywyssaỽc arnadunt. ac
yn disgynu yn yr alban. a gỽedy cly+
bot hynny o arthur. ymadaỽ a|oruc
ynteu a|r|dinas rac petruster ymlad
a|r veint nifer honno. a mynet ody+
no hyt yn ỻundein. ac yno galỽ attaỽ
a|oruc hoỻ wyrda y deyrnas yscolhei+
gon a ỻeygyon. ac ymgyghor ac ỽ+
ynt beth a|wnelynt am hynny.
Sef a|gaỽssant o gyghor y kỽnsli
hỽnnỽ. anuon kenadeu a|orugant
hyt ar hoỽel vab emyr|ỻydaỽ bren+
hin brytaen vechan. y uenegi idaỽ
« p 39v | p 40v » |