Oxford Jesus College MS. 111 (The Red Book of Hergest) – page 51r
Brut y Brenhinoedd
51r
202
yn bỽrỽ y elynyon. Ac yn kylchynu y vy+
dinoed e hun. a phy elyn bynac a gyfar+
ffei ac ef. a gỽayỽ neu a chledyf y ỻadei.
Ac ueỻy o bop parth y bydei arthur yn
gỽneuthur aerua. Kanys gỽeitheu y
bydynt trechaf y brytanyeit. Gỽeitheu
ereiỻ y bydynt trechaf y rufeinwyr.
a pan yttoedynt hỽy yn|yr ymfust hỽn+
nỽ. heb wybot py·diỽ y damỽeinei y vudu+
golyaeth. nachaf Morud iarỻ caer loy+
ỽ yn dyuot. a|r ỻeg a dyỽedassam ni y
hadaỽ uchot yg gỽersyỻ. ac yn deissy+
fyt yn|kyrchu eu gelynyon yn di·rybud
o|r tu yn eu hol ac yn mynet drostunt
gan eu gỽasgaru a|gỽneuthur aer+
ua diruaỽr y meint. ac yna y syrthas+
sant ỻaỽer o vilyoed o|r rufeinwyr. ac
yna y dygỽydỽys ỻes amheraỽdyr yn
vrathedic gan leif neb·vn. ac y bu
varỽ. ac yna kyt bei drỽy diruaỽr la+
fur. y brytanyeit a|gaỽssant y|maes.
A c yna y gỽasgarassant y|rufein+
wyr y|r diffeithỽch ac y|r coedyd.
ac ofyn yn eu kymeỻ. Ereiỻ y|r di+
nassoed a|r kestyỻ. ac y|r ỻeoed kadarn
y ffoynt. A|r brytanyeit oc eu hol yn eu
hymlit. ac o|druanaf aerua yn eu ỻad
ac yn eu|dala. ac yn eu hyspeilaỽ. ac ue+
ỻy megys y|rodynt y|ran vỽyaf o·nad+
unt eu dỽylaỽ yn wreigaỽl y eu rỽymaỽ
ac y eu karcharu y geissaỽ ystynu y+
chydic y eu hoedel. a hynny o Jaỽn vra+
ỽt duỽ. Kanys eu hen·dadeu ỽynteu
kyn·no hynny. yn andylyedus a|ỽnath+
oedynt y brytanyeit yn drethaỽl udunt
a|r brytanyeit yna yn nackau udunt
y dreth yd oedynt yn andylyedus yn|y
cheissaỽ gantunt. a gỽedy caffel o ar+
thur y vudugolyaeth. ef a|erchis gỽa+
hanu ar neiỻtu kalaned y wyrda ef
y ỽrth y elynaỽl galaned ac eu|kyỽei+
ryaỽ o vrenhinaỽl defaỽt. ac eu dỽyn
y|r manachlogoed a|vei yn eu gỽlat
yn ansodedic ac yno eu cladu yn enry+
dedus. ac yna y ducpỽyt corff Bedwyr
hyt y dinas e hun yn normandi
203
gan dir·uaỽr gỽynuAn y gAn y normany+
eit. ac yno y myỽn mynỽent ar deheu y di+
nas y cladỽyt yn enrydedus gyr·ỻaỽ y mur.
Kei a|ducpỽyt yn urathedic hyt yg kam
y kasteỻ a|ỽnathoed e hun. ac yno ny bu
beỻ gỽedy hynny yny vu uarỽ Kei o|r
brath hỽnnỽ. ac yn|y fforest a|oed yn a+
gos yno y myỽn manachlaỽc ermitwyr
o|r enryded a dylyei iarỻ yr angiỽ y cla+
dỽyt. Hodlyn tyỽyssaỽc a|ducpỽyt hyt
y dinas e|hun yr hỽn a|elỽir y tyruan.
ac yno y cladỽyt. Ẏ gỽyrda ereiỻ a|erchis
arthur eu dỽyn y|r manachlogoed nes+
saf udunt ar hyt y gỽlatoed. ac yna
yd erchis ef y ỽyr y wlat honno cladu y
elynyon. ac anuon corff ỻes amheraỽ+
dyr hyt yn sened rufein. ac erchi mene+
gi udunt na dylyynt hỽy teyrnget o y+
nys prydein amgen no hỽnnỽ. ac yno
y bu arthur y gayaf hỽnnỽ yn goresgyn
y dinassoed y mỽrgỽin. a|phan yttoed yr
haf yn|dechreu dyuot. ac arthur yn ys+
gynu mynyd mynheeu ỽrth vynet parth
a|rufein. Nachaf genadeu o ynys pry+
dein yn menegi y arthur ry daruot y
vedraỽt y nei uab y chỽaer goresgyn y+
nys prydein a gỽisgaỽ coron y teyrnas
am y pen e|hun drỽy greulonder a|brat.
A thynu gỽenhỽyfar vrenhines o|e riein+
gadeir a ry gysgu genti gan lygru kyf+
reith dỽywaỽl y neithoryeu. ~ ~ ~ ~
A gỽedy menegi hynny y arthur yn|y
ỻe peidyaỽ a|oruc a|e|darpar am vy+
net y rufein. ac ymchoelut parth
ac ynys prydein. a|brenhined yr ynyssed
y·gyt ac ef. a geỻỽg howel uab emyr
ỻydaỽ a|ỻu gantaỽ y tagnefedu ac y hedy+
chu y gỽladoed. Kanys yr yscymunedickaf
vradỽr gan vedraỽt a|anuonassei cheldric
tyỽyssaỽc y saeson. hyt yn germania y
gynuỻaỽ y ỻu mỽyaf a|gaỻei yn borth
idaỽ. a rodi udunt a|oruc o humyr hyt
yn yscotlont. ac yn achỽanec kymeint
ac a|uuassei y hors a|heingyst kynno
hynny yg kent. ac ỽrth hynny y deuth
cheldric ac ỽyth cant ỻog yn ỻaỽn o wyr
« p 50v | p 51v » |