Oxford Jesus College MS. 111 (The Red Book of Hergest) – page 63r
Brut y Tywysogion
63r
250
amgen. Geralt ystiwart. A ỻawer o rei e+
reiỻ. y erchi merch Murtart urenhin yn
briaỽt idaỽ. a hynny a gafas yn haỽd
a|r kenadeu a deuthant y eu gỽlat yn
hyfryt. a Murtart a anuones y verch a
ỻawer o logeu aruaỽc gyt a hi yn ne+
rth idaỽ. a gỽedy ymdyrchauel o|r ieirỻ
y myỽn balchder o achaỽs y petheu
hynny. ac ny chymerassant dim hedỽch
y gan y brenhin. ac yna y kynuỻaỽd
henri vrenhin ỻu bob y·chydic. ac yn gyn+
taf y kylchynaỽd casteỻ arỽndel drỽy
ymlad a hi. ac odyna y kymerth casteỻ
blif a|hyt y g|gasteỻ brug. ac ympeỻ
y ỽrthaỽ y pebẏỻyaỽd. A chymryt kyg+
or a|oruc py vod y darestyghei ef y ieirỻ
neu y ỻadedei*. neu y gỽrthladei o|r hoỻ
deyrnas. ac o hynny pennaf kyghor
a|gauas anuon kenadeu o|r brytanyeit
ac yn wahanredaỽl ar Jorwoerth vab
bledyn. a|e wahaỽd. a|e alỽ ger y vronn
ac adaỽ mỽy idaỽ noc a gaffei y gan y
Jeirỻ. a|r kyfran a berthynei y gael o
tir y brytanyeit. Hynny a rodes y bren+
hin yn|ryd y Jorwoerth uab bledyn tra
vei vyỽ y brenhin heb tỽng a heb tal.
Sed* oed hynny powys a cheredigyaỽn
a hanner dyuet. Kanys y·r|hanner a+
raỻ a|rodassit y vab baldwin a|gỽhyr
a chedweli. a gỽedy mynet Jorwoerth
uab bledyn y gasteỻ y brenhin. anuon
a|oruc y anreithaỽ kyuoeth Robert y
arglỽyd. a|r anuonhedic lu hỽnnỽ gan
Jorwoerth gan gyfleỽni gorchymyn
Jorwoerth a anreithassant gyfoeth Ro+
bert y arglỽyd drỽy gribdei laỽ pob
peth y gantunt. a diffeith aỽ y
wlat a|chynuỻaỽ diruaỽr anreith gan+
tunt o|r wlat. Kanys y Jarỻ kyn no hyn+
ny a|orchymynassei rodi cret y|r brytany+
eit heb debygu kaffel gỽrthỽyneb y gan+
tunt. ac anuon y hoỻ hafodyd a|e ani+
feileit a|e oludoed y blith y brytanyeit
heb goffau y sarahedeu a gaỽssei y bry+
tanyeit gynt. y gan Rosser y dat ef
a Hu braỽt y dat. a hynny oed gudye+
251
dic gan y brytanyeit yn vy·uyr. Kadỽga+
ỽn uab bledyn a Maredud y vraỽt a|o+
edynt ettwa y·gyt a|r Jarỻ. heb wy+
bot dim o hynny. a gỽedy clybot o|r iarỻ
hynny anobeithaỽ a|oruc a thebygu
nat oed dim gaỻu gantaỽ o achaỽs my+
net iorwoerth y ỽrthaỽ. kanys pennaf
oed hỽnnỽ o|r brytanyeit a mỽyaf y aỻu
ac erchi kygreir a|oruc ual y gaỻei
y neiỻ ae hedychu a|r brenhin ae adaỽ
y deyrnas o gỽbỽl. Yg|kyfrỽg y petheu
hynny yd athoed ernỽlf a|e wyr yn
erbyn y wreic a|r ỻyges aruaỽc a|o+
ed yn dyfot yn borth idaỽ. ac yn hyn+
ny y deuth Magnus vrenhin germa+
nia eil·weith y von. a gỽedy torri
ỻawer o wyd defnyd ymchoelut y va+
naỽ drachefyn. ac yna herỽyd y dyw+
edir gỽneuthur a|oruc tri chasteỻ. ac
ỻenỽi eilweith o|e wyr e|hun. y|rei a|dif+
feithassei kyn no hynny. ac erchi merch
Mỽrchath o|e vab. Kanys pennaf oed
hỽnnỽ o|r gỽydyl. a hynny a|gafas
yn ỻaỽen. a|gossot a|oruc ef y mab
hỽnnỽ yn vrenhin ym manaỽ. ac
yno y trigyaỽd y gaeaf hỽnnỽ. a gỽe+
dy clybot o robert Jarỻ hynny anuon
kenadeu a|oruc ar vagnus. ac ny
chauas dim o|e negesseu. a|gỽedy gỽe+
let o|r Jarỻ y vot yn warchaedic o
bop parth idaỽ. Keissaỽ kennat a|fford
y gan y brenhin y adaỽ y deyrnas. a|r
brenhin a|e kanhataỽd. ac ynteu drỽy
adaỽ pob peth a|vordỽyaỽd hyt yn n+
ormandi. ac yna yd anuones y brenhin
at ernỽlff y erchi idaỽ un o|r deu peth
ae adaỽ y deyrnas a mynet yn ol y vraỽt
ae ynteu a|delei yn|y ewyỻys ef. a|phan
gigleu ernỽlf hynny dewissach vu gantaỽ
vynet yn ol y vraỽt. a rodi y gasteỻ
a|oruc y|r brenhin. a|r brenhin a|dodes
gỽer·cheitweit yndaỽ. Gỽedy hynny he+
dychu a|oruc Jorwoerth a|e vrodyr a
rannu y kyfoeth y·rydunt. a|gỽedy
y·chydic o amser y delis Jorwoerth va+
redud y vraỽt. ac y carcharaỽd yg|kar+
« p 62v | p 63v » |