NLW MS. Peniarth 5 (The White Book of Rhydderch, part 1) – page 148v
Ystoria Bown de Hamtwn
148v
357
ac yn ymyl porth y llys y|deuth. ac
yna y kyhyrdaỽd y wreic a|roboaỽt
y vab ac ef. ac erchi lletty yr duỽ
a|oruc vdunt ac yr mỽyn sabaot
wynllỽyt. ny|th nekeir heb yr|arglỽy ̷ ̷+
des. ac yna mynet ygyt ac ef y|r
neuad heb odric. ac yna y dywaỽt
sabaot ỽrthi. arglỽydes heb ef dy
annerch y gan sabaot a|e|deu uab.
ac y gan terri dy vab. ac y gan iosi ̷ ̷+
an. a|phan gigleu hi hynny llaỽen
uu. a gofyn idaỽ a|oruc hi a|atway ̷ ̷+
nat sabaot. atwen heb ef. ac yna
craff synyeit a|oruc hi ar y eneu
a|e adnabot. a mynet dỽylaỽ mynỽ ̷ ̷+
gyl idaỽ a|oruc hi. weithon y|dyỽedỽn
am sabaot y vot yn hamtỽn ar lan
y mor. Bellach ymhoelut a|wnaỽn
at boỽn yr enrydedus ryuelỽr ac
eaỽn. Y iuor yd oed enritheỽl. a vi ̷ ̷+
bitus oed y|enỽ. a|hỽnnỽ a|ganei
amryuaelon canueu y|digrifhau
iuor vrenhin. ac yn hynny galỽ a
oruc iuor arnaỽ. a dywedut ỽrthaỽ.
digaỽn a gigleu o|th ganueu di o gelly
di dỽyn march boỽn y mi yn lledrat.
mi a|rodaf it gestyll a dinassoed.
heb yr ynteu. myn mahỽn ti a|e
keffy kanys yr llyfnet vo y mur ac
yr vchet mi a|af drosti. ac yna y|ker ̷ ̷+
daỽd rocdaỽ ar hyt y fford yny deuth
y vratmỽnd. ac yna yd yskynnaỽd
y|r muroed a chanu megys ederyn.
358
Odyna ef a|doeth y|r ystabyl heb ordic
ac agori y drỽs heb geissaỽ vn allwyd.
a gwelet arỽndel a|oruc. a|thrỽy tỽyll
y ganueu kael o·honaỽ dyuot at y
march a rydhau y draet o|r rỽym
a oed arnunt. ac heb odric yskynnu
arnaỽ ac y mỽmbraỽnt y kerdaỽd
yn vn iỽrnei. a|phan y gwelas y
brenhin llawen iaỽn uu. a|dywe+
dut mae drỽc y kyfaruuỽyt a|boỽn.
a|thygu hynny y vahỽn ac y apolin
y|dỽyeu ef. a|thrannoeth y bore pan
doeth gweisson boỽn y|r ystabyl ac na
welsant y march. maỽr oed eu hofyn
ac eu tuchan. a dyuot a orugant
gyr bron boỽn ac erchi naỽd a|thru ̷ ̷+
gared idaỽ. a|phan gigleu boỽn dỽyn
y varch. breid nat ynuydaỽd o digo ̷ ̷+
feint. Teỽi weithon a|wnaỽn am
boỽn a dywedut am sabaot a oed
gyt a|e wreic yn y ystauell yn kyscu.
a gỽelet breidỽyt a oruc yn|y fyd.
nyt amgen no gwelet boỽn yn
alarus. a daruot torri melascỽrn
y vordỽyt. a|duhunaỽ a|oruc y wreic
a menegi idi a ry|welsei. ac y|dywaỽt
arglỽyd heb hi ry|hir yd|ỽyt yn trigy ̷ ̷+
aỽ. y wreic neu y varch a|golles.
Och heb sabaot; drỽc ym daruu. ac
heb ohir kymryt y bererin ffonn a|e
balmidyden ac ymiachau a|e dylỽyth
a|oruc. ac y|r mor yd aeth. ac ny orfỽys ̷ ̷+
saỽd yny doeth y vratmỽnd. a|phan
« p 148r | p 149r » |