Oxford Jesus College MS. 111 (The Red Book of Hergest) – page 87r
Brut y Tywysogion
87r
365
y vrodyr. A diruaỽr lu gantunt. A|chyn
penn vn aỽr y|delit owein goch. ac y fo+
es dauyd wedy ỻad ỻaỽer o|r ỻu a|dala
ereiỻ a|ffo y dryỻ araỻ. ac yna y carcha+
rỽyt owein goch. ac y goresgynnaỽd
ỻywelyn gyfoeth owein. a|dauyd. Ẏ
vlỽydyn honno y bu uarỽ mararet
uerch vaelgỽn. gwreic owein ab rot+
bert. ac y prynỽyt y gloch uaỽr yn
ystrat fflur yr trugein a|dỽy vorc ar
bymthec ar|hugeint a dỽy vu. ac yn|y
ỻe y|drychafỽyt ac y kyssegrỽyt y|gan
escob bangor. ac yna amgylch diỽed
haf y bu uarỽ thomas walis escob
mynyỽ. Ẏ vlỽydyn rac ỽyneb y|doeth
Etwart uab henri urenhin Jarỻ kaer
ỻion y edrych y gestyỻ a|e dired yg|gỽy+
ned. ac yna y doeth dyl˄yedogyon kym+
ry att lywelyn ab gruffud wedy y hys+
peilaỽ o|e rydit a|e keithiwaỽ. a mene+
gi yn gỽynuanus bot yn weỻ gantunt
eu ỻad yn ryfel dros y rydit. no god+
ef y sathru gan estronyon drỽy gei+
thiwet. a chyffroi a|oruc ỻywelyn
ỽrth y dagreuoed. am eu hannoc ỽynt
a|e kyghor kyrchu y berued·wlat a|e ̷
goreskynn oỻ kynn penn yr ỽythnos
a|chyt ac ef Maredud uab rys gryc
ac odyna y kymerth veironnyd idaỽ
e|hun. a|r|rann a|oed eidaỽ etwart o ge ̷+
redigyaỽn ef a|e rodes y vardud ab
owein. a Bueỻt gyt a hynny. a|tha+
lu y uaredud ab rys gryc y gyfoeth
gan ỽrtlad* rys y nei o|e gyfoeth. a ro+
di y kyfoeth y uaredud uab rys heb
gynhal dim idaỽ e hun o|r tired gores+
kynn oỻ eithyr clot a|gobrỽy. ac o+
dyna y goresgynnaỽd werthrynyon
y gan roser mortymer yn|y laỽ e
hun. ac yna y kyssegrỽyt yr athro
rys o gaer riỽ y gan y pab yn escob
ym mynyỽ. Ẏ ulỽydyn rac ỽyneb y
kyrchaỽd ỻywelyn uab grufud. a ma ̷+
redud uab rys. a|maredud uab owein. a
ỻawer o dylyedogyon ereiỻ y·gyt ac ef
Y gyuoeth gruffud ab gỽennỽynỽyn.
366
ac y goresgynnaỽd oỻ eithyr castell y
traỻỽg garan o dyffryn hafren ac ychy+
dic o gareinaỽn. a distryỽ a|ỽnaeth
gasteỻ bydydon. Ẏg|kyfrỽg hynny y
kynnuỻaỽd rys uychan uab rys me+
chyỻ a|oed yn ỻoegyr ar|dehol. diruaỽr
borth a|chedernit o varỽneit a march+
ogyon ỻoegyr y·gyt ac ef. ac y doeth
hyt yg|kaer vyrdin. ac odyna yn ỽy+
thnos y sulgỽyn y duc hynt y dinefỽr
a gỽedy dyuot y myỽn y|r casteỻ y delis
y casteỻỽyr ef. a chyrchu a|ỽnaeth˄ant y ỻu
a dala y barỽneit a|r marchogyon ur+
dolyon. a ỻad mỽy no dỽy vil o|r ỻu
ac yna y kyrchaỽd y tywyssogyon dyfet
a distryỽ a|ỽnaethant gasteỻ aber tor+
an. a ỻan ystyffan ac arberth a|r ma+
en clochaỽc a ỻosgi y dref a|r trefyd
Ẏ ulỽydyn rac ỽyneb y goresgynnaỽd
ỻywelyn ab gruffud gemeis. ac y kyta+
modes varedud a|rys vychan y nei.
Ac odyno yn|gyfun y kyrchassant dref
draeth. ac y briwassant y casteỻ. ac o+
dyno y kymerassant uaredud ab owein
ygyt ac ỽynt. ac y kyrchassant ros. ac
y ỻosgassant y wlat oỻ eithyr haỽlford
ac odyna yd hỽylassant y wlat vorgan
A gỽedy goresgyn a chael casteỻ ỻan
geneu yd|ymhoelassant adref. wedy
ỻad ỻaỽer a|dala ereiỻ. ac yna y bu ua+
rỽ maelgỽn Jeuanc. ac y cladỽyt yn ystrat
flur. Ẏ ulỽydyn honno amgylch gỽyl
ueir yn aỽst. y deuth henri vrenhin a
a ỻu maỽr gantaỽ
hyt yn teganỽy. ac yno y trigyaỽd hyt
ỽyl veir y medi. ac yna yd|ymchoelaỽd
y loogyr. Ẏn|yr amser hỽnnỽ y ỻosges
eglỽys lan badarn vaỽr. ac y kymydaỽd
ỻywelyn ab gruffud. a|gruffud ab madaỽc
ac y gyrraỽd gruffud ab gỽennỽynỽyn
ar dehol o|e gyfoeth. Ẏ vlỽydyn rac ỽyneb
y rodes kynnuỻeitua o dylyedogyon lỽ
ffydlonder y lywelyn ab grufud gan bo+
en ysgymundaỽt. ac ny chetỽis Maredud
« p 86v | p 87v » |