Oxford Jesus College MS. 111 (The Red Book of Hergest) – page 94r
Ystoria Carolo Magno: Chronicl Turpin
94r
393
teu Chyarlymaen yn tylỽs pan uuassei
gynt yn|ieuanc yno yn yscol. Ac yna y
dywaỽt aigolant ỽrthaỽ. Mi a|archaf
ytti heb ef dywedud ymi. paham y go+
reskynnut ti tir ny pherthynei ytti o dref+
tadaỽl dylyet. nac y|th dat. nac y|th hen·dat
nac y|th or·hendat y gan an|kenedyl ni.
Dywedaf heb·y chyarlys ỽrth ry ethol oc
an harglỽyd ni Jessu grist. creaỽdyr nef
a|dayar an|kenedyl ni gristonogyon ym+
blaen pop kenedyl ereill. ac a ossodes eu
bot yn bennaduryeit ar bop kenedyl ere+
iỻ o|r hoỻ uyt. A|r meint a|elleis inheu mi
a|ymchoeleis dy genedyl sarassinyeit ti+
theu ỽrth an dedyf ninheu. val anteilỽg
yaỽn heb·yr aigolant oed darestỽg oc an
kenedyl ni yr yr|einỽch chỽi pan uo gỽeỻ
an dedyf ni no|r einỽch chỽi. Y mae yn
ninheu mahumet a|uu genat duỽ ac a
anuones yn ninheu. a|e orchymynneu yn+
teu a|gatwn. A dỽyweu hoỻ·gyuoethaỽc
yssyd ynn. a dangossant ynn y petheu a
vo rac ỻaỽ o arch Mahumet. ac ỽynteu
a anrydedỽn ni. trỽy y|rei y buchedockaỽn
ac y gỽledychỽn. Aigolant heb·y chyar+
lys yd ỽyt yna yn kyueilorni. kanys ni+
ni a|gadỽn dedfeu duỽ. a chỽitheu gorw+
ac orchymynneu dyn gorwac. Nyni
a gredỽn y duỽ dat a|r mab a|r yspryt
glan. ac a|e hadolỽn. Chỽitheu a gredỽch
ac a adolỽch y diaỽl yn aỽch|geudỽyweu
a|n heneiteu ni drỽy y fyd a gynhalyỽn
wedy an hageu a|ant y baratwys ac
y vuched tragywyd. Aỽch eneideu chỽith+
eu a|gerdant y uffern. ac uelly y mae am+
lỽc ragor an|dedyf ni rac yr einỽch chỽi.
A chanyt atweynỽch chỽi greaỽdyr pob
peth. ac na mynnỽch y adnabot. ny dyly+
ỽch chỽitheu na thref tat na dim nac
yn|y nef nac yn|y dayar namyn aỽch ran+
nu ac aỽch medyant ygyt a diaỽl ac y+
gyt a mahumet aỽch duỽ. ac ỽrth hyn+
ny kymer uedyd a|thi a|th genedyl a|vyd
vyỽ. ae titheu ymlad y|m|herbyn. i. a|vyd.
varỽ. Poet peỻ ymmi kymryt bedyd
heb·yr aigolant. ac ymdiwat a Mahumet
394
uyn|duỽ. i. hoỻ·gyuoethaỽc. namyn ym+
lad a|ỽnaf a|thi ac a|th genedyl y·dan yr
amot hỽnn. Os gỽeỻ an|dedyf ni gan
duỽ no|r einỽch chỽi goruot o·honan ni.
Os yr einỽch chỽitheu yssyd oreu goruot
o·honaỽch chỽitheu. a|bit yn waratwyd
hyt y dyd diwethaf y|r neb y goruyder
arnaỽ. ac yn glot ac etmic tragywyd
y|r neb a orffo. ac yn ychỽanec y|hynny
os ar uyg|kenedyl i y goruydir o|diag+
af. i. yn vyỽ mi a gymeraf vedyd. a hynny
a ganhatwyt o pob parth. ac yn|dian+
not yd etholet ugein marchaỽc cristaỽn
yn erbyn ugein o|r sarassinyeit. a|dech+
reu ymlad gan yr amot hỽnnỽ ym|plas
y urỽydyr. ac yn|y ỻe y ỻas y sarassiny+
eit. Odyna yd anuonet deugeint yn
erbyn deugeint. ac y llas y sarassiny+
eit. Odyna yd anuonet cant yn erbyn
cant. ac y foes y cristonogyon drache+
fyn. ac y ỻas ỽrth fo onadunt ac ofyn+
hau eu marỽ. Hynny a arỽydockaa pỽy
bynhac a ymlado dros fyd grist na dy+
ly yr neb ryỽ berigyl ymchoelut dra+
chefyn. ac ual y ỻas y rei hynny o ym+
choelut drachefyn. veỻy y byd marỽ
yn dybryt yn eu|pechodeu y cristono+
gyon a|ymchoelo idaỽ drachefyn. Os
ỽynteu a|ymladant yn|ỽraỽl ỽynt a
oruydant ar|eu|gelynyon. Nyt am·gen
y dieuyl a|ennic y pechaỽt. Ny cheif
coron med yr|ebystyl ar nyt ymlado
yn|deduaỽl. Odyna yd|anuonet deu
cant yn erbyn deu·cant. ac y|ỻas y
sarassinyeit oỻ. Odyna yd anuonet
mil. yn erbyn mil ac y|ỻas y sarassiny+
eit oỻ. Ac yna gỽedy ymgyngreiryaỽ
o bop parth. y doeth aigolant at Chy+
arlys y gyuadef bot yn weỻ dedyf y
cristonogyon noc un y sarassinyeit
Odyna yd|ymchoeles ar y genedyl
ac y|dyỽaỽt ỽrth y brenhined a|r tyỽ+
yssogyon y mynnei ef gymryt bedyd
a gorchymyn y baỽp o·nadunt eu be ̷+
dydyaỽ. Rei o·nadunt a ganhatwys
hynny. Ereiỻ a ymỽrthodes a hynny. ~ ~ ~
« p 93v | p 94v » |