NLW MS. Peniarth 19 – page 93r
Brut y Brenhinoedd
93r
417
tywyssogaeth yn yr ynys honn.
kanys pan ganhatter bot enỽ
brenhin udunt ỽy syberwach
vydant oc eu kiwdaỽt. ac a
wahodant attunt drỽy y rei
y gaỻont distriỽ kenedyl y
brytanyeit. kanys yn wastat
y gnottayssant bot yn vrat+
wyr. ac ny aỻant kadỽ fydlon+
der ỽrth neb. ac ỽrth hynny
Jaỽnach a|dylyedussach oed
eu|kywarsagu ac eu darostỽg
y genhym ni noc eu hardyr+
chafel. Kan·ys pan etteỻis gỽr+
theyrn ỽynt gyntaf megys
y ymlad dros y wlat. eissyoes
pan aỻyssant ỽy gyntaf talu
drỽc dros da ỽynt a|e dangos+
sassant eu tỽyỻ ac eu brat.
ac a|ladyssant ynn kenedyl ni
o|dywal aerua. Eilweith ỽynt
a vredychassant emrys wle+
dic. ac uthur benn dragon.
ỽynt a vredychassant arthur
pan duunassant a medraỽt.
ac o|r diwed ỽynt a|dugassant
gotmỽnt am benn keredic ac
a|e deholassant. ac a|dugassant
y|wlat rac y|dylyedogyon.
A |Gỽedy dywedut o vreint
hir yr ymadrodyon hynny.
ediuar vu gan gatwaỻaỽn
gỽneuthur yr amot hỽnnỽ.
a gorchymyn menegi y etwin.
na|chyt·synnyei y gyghorwyr
418
ac ef. ac na edynt idaỽ gan+
hadu yr hynn yd oed yn|y er+
chi. kanys yn erbyn deuaỽt
a gossodedigaeth yr hen wyrda
yr y|dechreu na dylyit rannu
yr ynys ỽrth dỽy goron. Ac
ỽrth hynny sorri a|oruc etw+
in ac adaỽ y dadleu. a mynet
y ysgotlont. a|dywedut y gỽ+
isgei goron heb ovyn kennat
y gatwaỻavn. a gỽedy mene+
gi hynny y gatwaỻaỽn. yn+
teu a anuones att etwin y
uenegi idaỽ o|r gỽisgei ynteu
goron yn ynys brydein. y
ỻadei ef y benn dan y goron.
A |Gỽedy bot y teruysc ueỻy
y·rygthunt. ỽynt a ym+
gyfaruuant eỻ|deu y parth
draỽ y humyr. A gỽedy dech+
reu y vrỽydyr. katwaỻaỽn
a|goỻes ỻawer o vilioed o|e
wyr. a|e gymheỻ ynteu ar|fo.
Ac yna y kymerth ynteu y
hynt drỽy yr alban parth ac
Jwerdon. A gỽedy kaffel o etỽ+
in y vudugolyaeth honno. ef
a|duc y lu drỽy wladoed kat+
waỻaỽn a ỻosgi y dinassoed.
a|r trefyd a ỻad y kiwdaỽtwyr.
ac anreithaỽ y gỽladoed. a hyt
tra yttoed etwin yn gỽneuthur
hynny. yd oed gatwaỻaỽn
yn wastat yn keissyaỽ ymcho+
elut parth a|e wlat. ac ny|s
gaỻei.
« p 92v | p 93v » |