Oxford Jesus College MS. 111 (The Red Book of Hergest) – page 100v
Ystoria Carolo Magno: Rhamant Otfel
100v
418
vis mei. nev leuuer maen kaerbonclus pan
vei dywyỻ y|nos. ac ef a emneityỽys arnei a|e
vanec. ac a|dywaỽt ỽrthi. merch heb ef yt+
ti. y gorchymynnaf. i. y pagan hỽnn yman.
gỽisc amdanaỽ ar ffrỽst. val na chollo dim
oblegyt y arueu. Ẏmlad a|ry gymerth ar+
naỽ yn erbynn Rolant vy nei. arglỽyd
heb hitheu yn llaỽen ac ef a|ỽneir hynny
ỽrth dy eỽyỻys. Ac yna Belisent a|elw+
is ar fflandrinn o|r mynyd tec. a roos o
rinỽel dỽy uorynyon vonhedic ereiỻ. a hỽ+
ynt eỻ|teir a arỽedassant Otuel hyt ar
fur o vaen marmor pedrogyl. ac yno a|ỽ+
iscassant am·danaỽ. luruc a|uuassei eidaỽ
Samuel vrenhin. a ỻun ederyn odidaỽc ar
y choler o|r tu racdei. a fflandrin a glym+
ỽys y kareieu ygkylch y vynỽgyl. ac
am y benn helym Galathiel vrenhin.
Honno pedrogyl oed. a gwedy|r wneuthur
yn|y chylch modrỽy a|blodeu o eur. a thrỽ+
yn ar ỽeith ederyn bonhedic. Ac odyna be+
lisent a|ỽisgỽys. ar y glun cledyf a vuas+
sei eidaỽ achael vrenhin. Sef oed hỽnnỽ
curceus. Kystal oed y aỽch ac vn gyll+
ell lem. a gỽedy hynny ỽynt a|dodassant
am y vynỽgyl taryan newyd gadarn kyn
wynnet oed a|r eiry. y bogel oed eur. y
hoelon oedynt aryant. ac a|dugant idaỽ
paladyr ỻinonn kadarn. a|phenn llym
gloyỽ arnaỽ. ac ystondard newyd ky|wyn+
net a|blodeu yr alaỽ. a|ỻun eryr yndi. ac
yn|dỽyn sarff y·rỽg y deutroet. a roos o
rinuel a|ỽisgỽys am y draet dỽy yspardun
oedynt gyỽyrthyd a|ryỽ gasteỻ. a|e gyf+
rỽy a|ossodet ar Migrados vuan y var+
ch e hun. Kynt y redei pann dosturyit
ac ysparduneu. noc yd ehedei y saeth o|r
ỻinin. a|r amỽs drythyỻ ỻamsachus
val y gwelas yr arglỽyd a|e hadnabu. ac
ynteu a|esgynnỽys ar·naỽ a gweỻ o|ragor
y gỽydyat ef y wrth ymlad no|r gỽr ky+
ỽreinaf y ỽrth daraỽ a myrthỽl. Ac yna
geỻỽg neit kywreint a|ỽnaeth y varch.
ac ymchoelut drachefynn att belisent a
dywedut ỽrthi. vnbennes vonhedic heb
ef duỽ a|diolcho ytt. da iaỽn yr wisgỽyt
419
amdanaf. A dyro ym dy gennyat. A marỽ
uyd Rolant gennyf ynheu yn|diannot
gỽedy hynny. Ac yna y|dywaỽt Belisent
ymogel di yn da hagen heb hi rac dỽryn+
dal. a*|o·nyt amdiffynny di yn da racdaỽ a
chỽrceus racdaỽ ef ny chynhellir dinas o+
honat ti vyth bellach. ac ar y geiryeu
hynny y kerdỽys Otuel racdaỽ at oger
lydanais. a Neimus dyỽyssaỽc kadarn.
a|e kanhabrygassant hyt y weirglaỽd y lle
yd|oed Rolant. A chyarlys a|dyrchauaỽd y
ffenestri uchel. ac a|elwis yr un gogyfurd
ar|dec attaỽ. ac a|erchis udunt|dyuot y·gyt
ac ef. ac a|beris y baỽb o|r ffreinc vynet o|r
weirglaỽd. a|e hadaỽ y|r|deu uarchaỽc. ac o+
dyna a|erchis udunt ỽynteu ymlad pann
vynnhynt o hynny. Ac otuel a|dywaỽt y|uot
ef yn barawt. ~ ~ ~ ~ ~ ~ ~ ~ ~ ~ ~
A C yna y|dyỽaỽt Rolant ỽrth y pagan
anffydlaỽn bagan mi a ymdiffydyaf
a|thi o hynn aỻann beỻach heb ef. a minnev
a|thitheu heb·yr Otuel yn gyffelybrỽyd. ac
ymogel yn|da ragof ỽrth na|charaf i di o dim.
A mi a|ovynnaf yt agheu vernagu vy eỽ+
ythyr a|ledeist. Ac yna brathu eu meirch ac
ysparduneu yn gadarn a|ỽnaethant ac ym+
gyrchu yny yttoed y weirglaỽd yrwg eu
ffrwst a|meint eu gỽynt ac eu tỽrỽf hỽyntev
yn bennaf yn kyffrydyeit oỻ. a|r dayar yg
gyfeiryeu arnei yn hoỻdi. a gostỽg gỽew+
yr a|e hystondardeu yn chỽythu yn aruthur
gan y gỽynt. a gỽan o bop un y gilyd yn|y
daryan dyrnaỽt maỽr yny dorres eu deu way+
ỽ yn gyffredin. ac eu ỻedyr brỽt. da uu y
ỻurugeu hagen ỽrth na|thorres vn vodrỽy
o·honunt. ac nat ym·ystynnỽys. Ac racdu
y kerdỽys y marchogyon grymus heb go+
ỻi dim o|vn o·nadunt. Ac yna y dywaỽt
Chyarlys. O duỽ heb ef maỽr a enryued+
ỽch yỽ hỽnn gennyf|i gynnal o|r sarascin
vn dyrnaỽt yn erbyn Rolant. Heb·y Bel+
isent y verch a|oed yn|sevyỻ ger y laỽ. Da
Jaỽn yỽ vy aruev. i. heb hi. a|e hymdygaỽ+
dyr ỽynteu nyt ỻyvỽr o|dim. a gỽedy y gei+
ryeu hynny Rolant a|dynnỽys dỽryndal y
gledyf. ac a|dreỽis Otuel ar warthaf y helym
« p 100r | p 101r » |