Oxford Jesus College MS. 111 (The Red Book of Hergest) – page 155v
Owain
155v
631
thri chymeint ac y dywaỽt y gỽr. A|r|gỽr
du a|oed yno yn eisted ympenn yr orsed.
Maỽr y|dywaỽt y gỽr imi y vot ef. Mỽy
o lawer oed ef no hynny. a|r ffonn hay+
arn a|dywedassei y gỽr y mi uot ỻỽyth
deuwr yndi. Hyspys oed gennyf i gei
uot ỻỽyth pedwar milỽr yndi. a|honno
oed yn|ỻaỽ y gỽr du. ac ny|dywedei yn+
teu ỽrthyf|i. namyn gỽrthgloched. A
gofyn|a|wneuthum idaỽ. pa vedyant oed
idaỽ. ar yr|aniueileit hynny. Mi a|e|dan+
gossaf itti dyn bychan heb ef. A|chymr+
yt y|ffonn yn|y laỽ. a tharaỽ karỽ a hi
dyrnaỽt maỽr. Yny ryd ynteu vreuarat
maỽr. ac ỽrth y vrefarat ef y doeth o
aniueileit. yny yttoedynt gyn amlet
a|r syr yn|yr awyr. Ac yny oed gyfyg
ymi seuyỻ yn|y ỻannerch y·gyt ac ỽ+
ynt. a|hynny o seirff a|gỽiberot. ac am+
ryuael aniueileit. Ac edrych a|oruc yn+
teu ar·nadunt hỽy. ac erchi udunt
vynet y bori. ac estỽng eu penneu
a|orugant ỽynteu. ac adoli idaỽ ef. val
gỽyr gỽaredaỽc y eu harglỽyd. Ac yna
y|dywaỽt y gỽr du ỽrthyf. a wely di dyn
bychan y medyant yssyd y mi ar yr
aniueileit hynn. Ac yna gofyn|fford a|ỽ+
neuthum idaỽ. a|garỽ uu ynteu. ac eissoes
gofyn a|oruc ef ymi pa|le y mynnỽn vy+
net. a dywedut a|orugum idaỽ py ryỽ
ỽr oedỽn. a|phy|beth a|geissỽn. a mene+
gi a|oruc ynteu ymi. kymer heb ynte+
u y fford y tal y ỻannerch. a cherda yn
erbyn yr aỻt uchot yny delych o|e phenn.
ac odyna ti a|wely ystrat megys dyffr+
ynn maỽr. Ac ym|perued yr ystrat ti
a|wely prenn maỽr. a glassach yỽ y vric
no|r ffenytwyd glassaf. ac ydan y prenn
hỽnnỽ y|mae ffynnaỽn. Ac yn ymyl y
ffynnaỽn y|mae ỻech varmor. ac ar|y
ỻech y|mae kaỽc aryant ỽrth gadỽyn
aryant. mal na|eỻir eu|gỽahanu. A
chymer y kaỽc a bỽrỽ gaỽgeit o|r dỽ+
fyr am benn y ỻech. Ac yna ti a|glyỽy
dỽryf maỽr. a|thi a tebygy ergrynu
y nef a|r dayar gan y tỽryf. Ac yn
632
ol y tỽrỽf y daỽ kawat adoer. ac abre+
id vyd itti y diodef hi yn vyỽ. a chen+
ỻysc vyd y gaỽat. ac yn|ol y gaỽat hi+
non a vyd. Ac ny byd un dalen ar y|prenn
ny darffo y|r gawat eu|dỽyn. ac ar
hynny y|daỽ kaỽat o adar. a|disgyn+
nu ar y prenn a|ỽnant. Ac ny chlywe+
ist eiryoet y|th wlat dy hun kerd kys+
tal ac a|ganant. A phan vo digrifaf
gennyt gerd yr adar. Ti a|glywy du+
chan. a chỽynuan yn dyuot ar hyt y
dyffrynn tu ac attat. Ac ar hynny ti
a|wely varchaỽc ar varch purdu. a
gỽisc o bali purdu ymdanaỽ. ac ys+
tondard o vliant purdu ar y waeỽ.
A|th|gyrchu a|wna yn gyntaf y gaỻo.
O|ffoy di racdaỽ. ef a|th ordiwed. Os|ar+
hoy ditheu euo. a thi yn uarchaỽc. ef
a|th edeu yn bedestyr. ac ony cheffy di
yno ofut. nyt reit itti amofyn gofut
tra|vych vyỽ. A chymryt y fford a|o+
rugum hyt pan|deuthum y benn yr
aỻt. ac odyno y gỽelỽn mal y mana+
gyssei y gỽr du ymi. ac y ymyl y prenn
y deuthum. A|r ffynnaỽn a|welỽn dan y
prenn. a|r ỻech uarmor yn|y hymyl.
a|r|kaỽc aryant ỽrth y gadwyn. a chym+
ryt y kaỽc a|wneuthum. a bỽrỽ kaỽge+
it o|r dỽfyr am|penn y ỻech. ac ar hynny
nachaf y tỽrỽf yn|dyuot yn vỽy yn|da
noc y|dywedassei y gỽr du im. Ac yn|ol y
tỽryf y gawat. a|diheu oed gennyf|i gei.
na dihangei na|dyn na|ỻỽdyn yn|vyỽ
o|r|a|ordiwedei y gaỽat aỻan. kany orsa+
fei vn genỻysgen ohonei. nac yr croen
nac yr kic yny hatalyn yr asgỽrn. ac
ymchoelut pedrein uy march ar y gae+
at a|wneuthum. a dodi sỽch vyn taryan
ar penn vy march a|e vỽng. a dodi y
baryflen ar vym|penn vy hun. ac ue+
ỻy porthi y gawat. A phan|edrycheis
ar y prenn. nyt oed un dalen arnaỽ. ac
yna yd hinones. ac ar hynny nachaf
yr adar yn|disgynnu ar|y|prenn. Ac yn
kanu. A hyspys yỽ gennyf|i gei. na
chynt na gỽedy na chiglef i kerd kystal
« p 155r | p 156r » |