Oxford Jesus College MS. 111 (The Red Book of Hergest) – page 186r
Y bedwaredd gainc
186r
752
y gỽynt ac ef. ef a|e|gỽybyd. Je heb·y gỽydyon
taỽ di bellach. Mi a|ỽnn dy uedỽl di. caru go+
ewin yd|ỽyt ti. Sef a|wnaeth ynteu yna
pan wybu ef adnabot o|e uraỽt y uedỽl. dodi
ucheneit dromhaf yn|y byt. Taỽ eneit a|th
ucheneidaỽ heb|ef. nyt o hynny y goruydir.
Minheu a|baraf heb ef kany eỻir heb hyn+
ny dygyuori gỽyned a|phowys a deheubarth
y geissaỽ y uorỽyn. a|byd laỽen di a mi a|e
paraf itt. ac ar hynny att uath uab math+
onỽy yd|aethant ỽy. arglỽyd heb·y gỽydyon
mi a|gigleu dyuot y|r deheu y ryỽ pryuet
ny doeth y|r ynys honn eiryoet. Pỽy y
henỽ hỽy heb ef. Hobeu arglỽyd. Pa ryỽ
aniueileit yỽ y rei hynny. aniueileit by+
chein gỽeỻ eu kic no chic eidon. bychein
ynt ỽynteu. ac y maent yn symudaỽ enỽ+
eu. Moch y gelwir weithon. Pỽy bieỽynt
hỽy. Pryderi uab pỽyỻ yd anuonet idaỽ o
annỽn. y gan araỽn vrenhin annỽn. ac
ettỽa yd ys yn kadỽ o|r enỽ hỽnnỽ. han+
ner hỽch. hanner hob. Je heb ynteu ba
ffuryf y keffir ỽy y gantaỽ. Mi af ar
vyn|deudecuet yn rith beird arglỽyd y
erchi y moch. Ef a|ry|eiỻ ych neckau heb
ynteu. Nyt drỽc vyn|traỽsgỽyd i|arglỽyd
heb ef. ny deuaf i heb y moch. Yn llaỽen
heb ynteu kerda ragot. Ef a aeth a gil+
uaethỽy a|degwyr gyt ac ỽynt. hyt yg
keredigyawn yn|y lle a|elwir rudlan. teiui
yr aỽr honn. yn|y ỻe yd|oed ỻys y pryderi.
ac yn rith beird y|doethant y myỽn. a
ỻaỽen uuỽyvt ỽrthunt. Ar neiỻlaỽ pryde+
ri y gossodet gỽydyon y nos honno. Je
heb·y pryderi da oed gennym ni kael ky+
varỽydyt gan rei o|r gỽyreeinc racko.
Moes yỽ gennym ni arglỽyd heb·y
gỽydyon y nos gyntaf y delher att ỽr
maỽr dywedut o|r pennkerd. Mi a|dywedaf
gyuarỽydyt yn ỻaỽen. Ynteu wydyon
goreu kyuarỽyd yn|y byt oed. a|r nos hon+
no didanu y ỻys a|wnaeth ar ymdidaneu
digrif a chyvarỽydyt. yny|oed hoff gan
baỽp o|r ỻys. ac yn|didan gan pryderi
ymdidan ac ef. Ac ar|diỽed hynny. arglỽ+
yd heb ef ae gỽeỻ y gỽna neb uy neges i
753
ỽrthyt ti no miui uy hun. Na|weỻ heb
ynteu tauaỽt llaỽn|da yỽ y teu di. ỻyma vy
neges inheu arglỽyd heb ef. ymadolỽyn a|thi+
di am yr aniueileit a|anuonet itt o annỽvyn.
Je heb ynteu haỽssaf yn|y byt oed hynny.
pa ny bei ammot y·rof a|m gỽlat amdanunt
Sef yỽ hynny. nat elhont y gennyf yny hily+
ont eu deu kymeint yn|y wlat. arglỽyd heb
ynteu minneu a aỻaf dy rydhau ditheu o|r
geireu hynny. Sef ual y gaỻaf. Na|dyro ym
y moch heno. ac na naccaa ui ohonunt.
auory minneu a dangossaf gyfnewit am+
danunt ỽy. a|r nos honno yd aethant ef a|e
gedymdeithon y ỻetty ar y kynghor. awyr
heb ef ni chaỽn ni y moch oc eu herchi. Je
heb ỽynteu. pa|draỽsgỽyd y keir ỽynteu.
Mi a|baraf eu kael heb·y gỽydyon. Ac yna yd
aeth ef yn|y geluydodeu. ac y|dechreuawd dangos
y hut. ac yd hudỽys deudec emys. a|deudec milgi
bronnwyn du bob un ohonunt. a deudec torch.
a|deudec kynỻyuan arnunt. a neb o|r a|e gỽe+
lei ny wydyat na beynt eur. a deudec
kyfrỽy ar y|meirch. ac am|bob|ỻe oc y
dylyei hayarn uot arnunt y|bydei eur o gỽbyl.
A|r|ffrỽyneu ynn un weith a|hynny. a|r meirch
ac a|r kỽn y doeth ef att pryderi. Dyd da itt ar+
glỽyd heb ef. Duỽ a|rodho da itt heb ynteu a
graessaỽ ỽrthyt. Arglỽyd heb ef ỻyma rydit
ytti am y geir a|dywedeist neithỽyr am y|moch
na|s rodut ac na|s gỽerthut. titheu a eỻy gyfne+
wityaỽ yr a|uo gỽeỻ. Minneu a rodaf y deudeg
meirch hynn ual y maent yn gyweir. ac eu
kyfrỽyeu ac eu ffrỽyneu. a|r deu·dec milgi ac eu
torcheu. ac eu kynỻyuaneu ual y gỽely. a|r deu+
dec taryan eureit a|wely di racko. Y rei hynny a
rythassei ef o|r madalch. Je heb ynteu ni a|gyme+
rỽn gynghor. Sef y kaỽssant yn|y kynghor rodi
y moch y wydyon. a|chymryt y meirch a|r kỽn
a|r taryaneu y gantaỽ ynteu. Ac yna y|kymer+
assant hỽy genhat ac y dechreuassant gerdet a|r
moch. a geimeit heb·y gỽydyon reit yỽ in gerdet
yn bryssur. ny phara yr hut namyn o|r pryt y
gilyd. A|r nos honno y kerdassant hyt yg|gỽar+
thaf keredigyaỽn. Y ỻe a|elwir ettwa o|r
achaỽs hỽnnỽ mochdref. A thrannoeth y
kymerassant eu hynt dros elenit y doethant.
« p 185v | p 186v » |