Oxford Jesus College MS. 111 (The Red Book of Hergest) – page 187r
Y bedwaredd gainc
187r
756
Rydhaer ynteu heb·y math. a|r gỽas hỽnnỽ
a|r|gỽystlon a|oed gyt ac ef a eỻyngỽyt yn ol
gỽyr y deheu. Ynteu math a gyrchỽys kaer
dathyl. Gilaethỽy uab don a|r|teulu a uuass+
ynt gyt ac ef a|gyrchassant y gylchaỽ gỽy+
ned mal y gnotayssynt. a heb gyrchu y llys.
Ynteu vath a|gyrchỽys y ystaueỻ. ac a be+
ris kyweiraỽ lle idaỽ y benelinyaỽ. ual y
kaffei dodi y draet ym|plyc croth y uorỽyn.
arglỽyd heb·y goewyn keis uorỽyn a uo is
dy draet weithon. gỽreic ỽyf|i. Pa ystyr yỽ
hynny hynny heb ef. Kyrch arglỽyd a|doeth
am vym|penn a|hynny yn|dirgel. ac ny bum
distaỽ inheu. ny bu yn|y ỻys neb ny|s gỽypei.
Sef kyrch a|doeth dy nyeint ueibon dy chỽ+
aer arglỽyd. gỽydyon uab don. a giluaeth+
ỽy uab don. a threis arnaf a|orugant a
cheỽilyd y titheu. a chyscu a|wnaethpỽyt
genhyf. a hynny y|th ystaueỻ ac y|th wely
di. Je heb ynteu yr hynn a|aỻaf mi a|e gỽnaf
mi a baraf itt gael iaỽn yn gyntaf. ac yn
ol vy iaỽn y bydaf inheu. a thitheu heb ef
mi a|th gymeraf yn wreic im. ac a rodaf
uedyant vyg|kyuoeth y|th laỽ ditheu. ac
yn|hynny ny doethant ỽy yg|kyuyl y ỻys.
namyn trigyaỽ y gylchaỽ y|wlat a|wnae+
thant. yny aeth gỽahard udunt ar y bỽ+
yt a|e ỻyn. yn|gyntaf ny doethant hỽy
yn|y gyuyl ef. Yna y doethant ỽy attaỽ ef.
Arglỽyd heb ỽynt. dyd da it. Je heb ynteu
ae wneuthur iaỽn y mi y doethaỽch chỽi.
arglỽyd y|th ewyỻys yd ydym. Bei vy eỽ+
yỻys ny choỻỽn o|wyr ac arueu a goỻ+
eis. vyg|kewilid ny eỻỽch chỽi y dalu ymi
heb agheu pryderi. a|chan doethaỽch chỽi+
itheu y|m ewyỻys ynheu. mi a|dechreuaf
boen arnaỽch. ac yna y kymerth y hut+
lath ac y treỽis giluaethỽy yny uyd yn|da+
ran ewic. ac achub y ỻaỻ a|wnaeth yn
gyflym kyt mynnei dianc ny|s gaỻei.
a|e daraỽ a|r vn hutlath yny vyd yn garỽ.
kanys yỽch yn rỽymedigaeth mi a|wnaf
yỽch gerdet ygyt. a|ch bot yn gymare+
dic. ac yn|vn anyan a|r gỽyduilot yd yỽch
yn eu rith. ac yn yr|amser y bo etiued.
757
udunt hỽy. y uot y chwitheu. a blỽydyn
y hediỽ dowch yma attaf|i. Ym·penn yr
ulỽydyn o|r vn dyd ỻyma y klywei odo+
run adan paret yr ystauell. a chyfuar+
thua cỽn y llys am benn y godorun.
Edrych heb ynteu beth yssyd allan.
Arglỽyd heb·yr vn mi a|e hedrycheis
y mae yno carỽ ac ewic ac elein
ac ỽynt. ac ar|hynny kyuodi a|oruc yn+
teu a|dyuot allan. a|phan doeth. sef y gỽe+
lei y tri|llydyn. Sef tri|llydyn oedynt carỽ
ac ewic ac elein kryf. Sef a|wnaeth ef dyr+
chauel y hut. Yr hỽnn a|uu o·hon aỽch
yn eỽic yrỻyned. bit uaed coet eleni. a|r
hỽnn a vu garỽ yrỻened. bit garnen eleni.
Ac ar|hynny eu taraỽ a|r hutlath. Y mab
hagen a gymeraf|i ac a|baraf y ueithryn.
a|e uedydyaỽ. Sef enỽ a|dodet arnaỽ hydỽn.
Eỽch chỽitheu a|bydỽch y ỻeiỻ yn uaed
coet a|r ỻaỻ yn garnen coet. a|r anyan a|uo
y|r moch coet. bit y chỽitheu. a blỽydyn y
hediỽ bydỽch yma ydan y paret. ac ych
etiued gyt a|chỽi. Ympenn y ulỽydyn ỻy+
ma y clywynt gyuarthua cỽn dan paret
yr ystaueỻ. a|dygyuor y ỻys y am hynny
am eu penn. ar hynny kyuodi a|oruc ynteu
a mynet allan. a phan|daỽ allan. tri|ỻydyn
a|welei. Sef kyfryỽ lydnot a|welei. baed co+
et. a charnen coet a chrynỻỽdyn da gyt ac
ỽynt. a breisc oed yn|yr oet oed arnaỽ. Je
heb ef hỽn a|gymeraf|i attaf ac a|baraf y
uedydyaỽ. a|e daraỽ a|r|hut·lath yny|uyd yn
uab braswineu telediỽ. Sef enỽ a|dodet ar
hỽnnỽ hychtỽn. a|chỽitheu yr un a|uu uaed
coet ohonaỽch yrỻyned. bit vleidast eleni.
a|r hỽnn a|uu garnen yrỻyned. bit vleid eleni
ac ar|hynny eu taraỽ a|r hutlath yny uydant
bleid a|bleidast. ac anyan yr aniueileit yd y+
ỽch yn|eu|rith bit y chỽitheu. a bydỽch yma
vlỽydyn y|r dyd hediỽ ydan y paret hỽnn.
Yr un|dyd ympenn y|vlỽydyn llyma y clyỽei dy+
gyuor a chyuarthua cỽn ydan baret yr ystauell.
Ynteu a gyfuodes allan. a phan|daỽ ỻyma y
gỽelei bleid a bleidast a chrubothon cryf y+
gyt ac ỽynt. Hỽnn a gymeraf|i heb ef ac y baraf
« p 186v | p 187v » |