Oxford Jesus College MS. 111 (The Red Book of Hergest) – page 206r
Culhwch ac Olwen
206r
832
Oed gỽeỻ genhyf noc yssyd y|m gỽlat
pei bei oỻ ual hynn. Dyhed a|beth bot gỽr
kystal a|thi heb gedymdeith. Oi a|ỽrda y ma+
e ymi gedymdeith. Kynny|dycko y gerd honn
Pỽy yỽ hỽnnỽ. aet y porthaỽr aỻan. a mi
a|dywedaf idaỽ y arwydon. Penn y waeỽ
a|daỽ y ar y baladyr. ac yssef a|dygyrch y
gỽaet y|ar y|gỽynt. ac a|diskyn ar y paladyr
eilweith. agori y porth a|wnaethpwyt. a
dyuot bedwyr y myỽn. ac y|dywaỽt kei.
budugaỽl yỽ bedwyr. kynny wypo y gerd
honn. Dadleu maỽr a uu gan y gỽyr
a|oed aỻan am dyuot bedwyr a chei y myỽn.
A|dyuot gỽas ieuanc oed gyt ac ỽynt y
myỽn. vn mab custennin heussaỽr. Sef
a|ỽnaeth ef a|e gedymdeithon ygglyn ỽrth+
aỽ dyuot dros y teir katlys hyt pann
yttoed y myỽn y g˄aer. Y dywedassant y gedym+
deithon ỽrth uab custennin. ti a|orugost
hynn. goreu dyn ỽyt. Ac o hynny aỻan
y gelwit ef goreu Mab custennin. Gỽascaru
a|orugant ỽy y eu ỻettyeu. mal y keffynt
ỻad eu ỻettywyr. heb wybot y|r kaỽr. Y cled+
yf a daruu y ỽrteith. a|e rodi a|oruc kei yn
ỻaỽ ỽrnach gaỽr. y malphei y edrych a
ranghei y uod idaỽ y gỽeith. ac y dywa+
ỽt y kaỽr. Da yỽ y gỽeith. a ranc bod
yỽ gennyf. Y dywaỽt kei. dy wein di a
lygrỽys dy gledyf. dyro di y mi y diot y
kyỻeỻ·brenneu o·honei. Ac y wneuthur
ereiỻ o newyd idaỽ. A chymryt y wein
o·honaỽ. a|r cledyf yn|y ỻaỽ araỻ. a dy+
uot o·honaỽ uch penn y kaỽr mal pei y
cledyf a|dottei yn|y wein. Y ossot a|oruc
ynteu ym|penn y kaỽr. a|ỻad y benn y er+
[ gyt
833
y arnaỽ. Diffeithaỽ y gaer. a dỽyn a vyn+
nassant o|r|da a|r tlysseu. Ac yg|kyuenu yr
un dyd ympenn y|vlỽydyn y|deuthant y lys
arthur. a chledyf ỽrnach gaỽr gantunt
D Ywedut a|ỽnaethant y arthur y
ual y daruu udunt. Arthur a|dy+
waỽt. pa beth yssyd iaỽnaf y geissaỽ gyn+
taf o|r annoetheu hynny. Jaỽnaf yỽ heb
ỽynteu keissaỽ Mabon uab modron.
ac nyt kaffel arnaỽ nes kaffel eidoel
uab aer y gar. yn gyntaf. Kyuodi a|o+
ruc arthur a milwyr ynys prydein gan+
taỽ y geissaỽ eidoel. a|dyuot a|orugant
hyt yn rackaer gliui yn|y ỻe yd oed eido+
el yg|karchar. Seuyỻ a|oruc gliui ar
vann y gaer. ac y|dywaỽt. Arthur py
holy|di y mi pryt na|m gedy yn|y tarren
honn. nyt da im yndi ac nyt digrif.
nyt gỽenith. nyt keirch im. kynny
cheissych ditheu wneuthur cam im.
Arthur a|dywaỽt. Nyt yr drỽc itti y deu+
thum i yma. namyn y geissaỽ y karch+
araỽr yssyd gennyt. Mi a|rodaf y carcha+
raỽr itti ac ny darparysswn y rodi y|neb.
Ac ygyt a hynny vy nerth a|m porth a
geffy di. Y gỽyr a|dywaỽt ỽrth arthur.
arglỽyd dos di adref ny eỻy di uynet
a|th lu y geissaỽ peth mor uan a|r rei
hynn. Arthur a|dywaỽt. Gỽrhyr gỽal+
staỽt ieithoed itti y mae iaỽn mynet
y|r neges honn. Yr hoỻ ieithoed yssyd
gennyt. a chyfyeith ỽyt a|r rei o|r adar
a|r anniueileit. Eidoel itti y mae iaỽn
mynet y geissaỽ dy geuynderỽ yỽ.
gyt a|m gỽyr i. Kei a bedwyr. gobeith
« p 205v | p 206v » |