Oxford Jesus College MS. 111 (The Red Book of Hergest) – page 23v
Brut y Brenhinoedd
23v
91
ac inseileu senedỽyr rufein ỽrthunt.
A gỽedy y dyuot y ynys prydein.
kynuỻaỽ amylder o logeu aruaỽc.
a galỽ attaỽ hoỻ Jeuenctit ynys
brydein. a chychỽyn y|r traetheu. a
gỽneuthur kynnỽryf maỽr yn|yr
hoỻ deruyneu. ac y·gyt a|hynny dỽ+
yn kyrcheu mynych y|r ynyssed yn
y gylch. ac eu|hanreithaỽ ac eu ỻos+
gi. a|distryỽ eu|kestyỻ a ỻad y tir·di+
wyỻodron. a thra yttoed ef ueỻy
paỽb o|r cribdeilỽyr ereiỻ a gyrchei at+
taỽ y ỽrhau idaỽ. ac ar benn yspeit
vechan kymeint oed y nifer ac nat
oed haỽd y un tyỽyssaỽc ym·erbyny+
eit ac ef na gỽrthỽynebu idaỽ. ac
ỽrth hynny sef a|oruc karaỽn ym+
drychauel yn syberỽyt. ac anuon
a|ỽnaeth at y brytanyeit y venegi v+
dunt pei gỽnelynt hỽy euo yn vre+
nhin. gỽedy darffei idaỽ yn gyntaf
gỽasgaru gỽyr rufein ac eu ỻad.
y differei ynteu ynys prydein rac
estraỽn genedyl. ac y hamdiffynei
rac pob gormes o|r a|delei idi. a gỽe+
dy kaffel ohonaỽ duundeb y bryta+
nyeit ymlad a|oruc a|basianus. a
gỽedy y lad kymryt a|ỽnaeth ka+
raỽn ỻyỽodraeth y deyrnas yn|y laỽ.
Kanys y ffichteit a|dugassei suly+
en gantaỽ a ry wnathoed idaỽ ef
brat basianus. Eỽythyr vraỽt y
vam y vasianus oed sulyen. a pha+
n dylyynt y ffichteit kanhorthỽy
eu|brenhin nyt ef a|ỽnaethant na+
myn kymryt gỽerth gan garaỽn
a ỻad basianus. a sef a|oruc gỽyr
rufein ynvydu a heb ỽybot pỽy vei
eu gelynyon pỽy vei eu gỽyr e|hu+
nein. ac adaỽ y maes a ffo. a gỽedy
kaffel o garaỽn y vudugolyaeth
honno. y rodes ynteu yn yr alban
ỻe y|r ffichteit y bressỽylaỽ yndaỽ. ac
yr hynny hyt hediỽ y maent yno.
A gỽedy clybot yn rufein ry o+
resgyn o garaỽn ynys brydein
92
a llad gỽyr rufein a|e gỽasgaru Ac
eu dehol. Sef a|ỽnaeth sened rufein
anuon allectus a their lleg o wyr ar+
uaỽc gantaỽ ỽrth geissaỽ ỻad y creula+
ỽn hỽnnỽ. ac y dỽyn ynys prydein ỽrth
darystygedigaeth gỽyr rufein. a heb
vn gohir gỽedy dyuot allectus y
ynys prydein. ac ymlad a charaỽn a|e
lad. y kymerth aỻectus ỻyỽodraeth ynys
prydein yn|y laỽ. ac y gỽnaeth molest a
chreulonder ar y brytanyeit. o achaỽs
ry ymadaỽ o·nadunt ac arglỽydiaeth gỽ+
yr rufein. a gỽrhau y garaỽn. Sef a|w+
naeth y brytanyeit heb aỻu diodef hynny
duunaỽ y·gyt a gỽneuthur asclepiotus
tyỽysaỽc kernyỽ yn vrenhin arnadunt.
ac odyna kynuỻaỽ ỻu ac ymlad a|gỽyr
rufein. a phan ytoed aỻectus yn ỻundein
yn gỽneuthur gỽyluaeu y dadolyon dỽy+
weu. Pan gigleu ef bot y brytanyeit yn
dyuot am y ben. Peidaỽ a|wnaeth a|r
abertheu yd|oed yn|eu|gỽneuthur. a
mynet odieithyr y dinas a|e gereint
gantaỽ. a gỽedy bot ymlad y·rydunt.
aerua diruaỽr y meint a|las o bop parth.
ac eissoes asclepiodotus a|r brytanyeit a|or+
vu. a gỽasgaru bydinoed gỽyr rufein.
ac eu kymeỻ ar ffo. ac yn|yr erlit hỽnnỽ
ỻad aỻectus a ỻaỽer o vilioed o·nadunt
a|phan welas selius kedymdeith allec+
tus ry gaffel o|r brytanyeit y uudugo+
lyaeth. Sef a|ỽnaeth ynteu kynuỻaỽ yr
hyn a dihagyssei o|e gedymdeithon a
chyrchu kaer Lundein. a chaeu y pyrth
a chynal y dinas arnadunt o dybygu
gaỻu gochel eu hageu ueỻy. ac eisso+
es sef a|ỽnaeth asclepiodotus eu gỽarcha+
e yno ỽynt. ac anuon at bop tyỽyssaỽc
yn ynys brydein. y uenegi ry daruot
idaỽ ef ry lad aỻectus a ỻaỽer o vilyo+
ed y·gyt ac ef. a|e uot ynteu yn|gỽarch+
ae yr hyn a|dihagyssei o·nadunt yg|ka+
er lundein. ac ỽrth hynny erchi y ba+
ỽp yn gytuun dyuot a|e hoỻ borth gan+
tunt y geissaỽ diỽreidaỽ gỽyr rufein yn
ỻỽyr o|r ynys hon. kanys tybygei ef bot
« p 23r | p 24r » |