Oxford Jesus College MS. 111 (The Red Book of Hergest) – page 248v
Delw'r Byd, O'r Ddaear hyd at y Lloer, Brut y Saeson
248v
998
a thrỽy zodiatus y kerda. yn erbyn redec y
ffuruauen. Y chylch yỽ pump diwarnaỽt a
thrugeint a thrychant. a|e chylch annya+
naỽl a|gerda yn|wyth ar|hugeint. absent
yr heul a|wna y nos. a|e chyndrycholder a|w+
na y dyd. val y byd y dyd pan|uo yr heul uch
y dayar. veỻy y byd dyd y fford y kerdo yr he+
ul y adan y|dayar. Pan|gerdo ranneu y
gogled y adan y dayar y gỽna y ni hirdyd
a haf. Pan|gerdo partheu y deheu y|adan
y|dayar. y byd dyd byrr y ninneu y gayaf.
Pymhet planet yỽ mars. crwnn o ffuryf. a
chymerwedic o dan. a dỽy vlyned y kerda
y gylch. Chwechet planet yỽ iupiter. crỽn
o ffuryf. ac ardymheru o annyan. Ac yn
yspeit deudeng mlyned y kerda y gylch yn
zodiatus. Seithuet planet yỽ saturnus.
Crỽnn yỽ. a reỽlyt yn erbyn y dayar. ac
yn erbyn y plannedeu y·danaỽ a gerda trỽy
zodiatus. trỽy yspeit deudeng mlyned ar
hugeint. Ac yn|dechreu kylch saturnus
wedy deg mlyned ar|hugeint. pỽy bynnac
a|dineuo delỽ o|e·uyd. hi a|dyweit ual dyn.
Paỽb onadunt a|gerdant eu kylch. wedy
deudeg|mlyned ar|hugeint a|phump cant. ~
a llyna diwed y ỻyuyr hỽnn. ~ ~ ~
A chyt traetho a·thraỽon gerd o|r sygneu ys+
syd yn zodiatus. oduch y plannedeu. ac o|r
ffuruauen. ac o|r syr yssyd ossodedic yndi. ac
o|r nef y mae eistedua yr egylyon pob rei o ̷+
nadunt erbyn yn erbyn yn wahanredaỽl.
ac eistedua duỽ drindaỽt y|ar hynny oỻ.
Nyt haỽd y neb corfforaỽl. na|dyaỻ peth ky+
fuch a hynny. na|chyt as deaỻei athraỽon
a lauuryynt yn hir yn|dysc ỻyfreu. ny ̷
eỻynt hỽy eissoes eu menegi ỽy yn berffe+
ith y leygyon. na gaỻu o leygyon y deaỻ
yr a eỻit o uanac arnunt. Ac ỽrth hynny
y|tewit amdanunt. ~ ~ ~ ~ ~ ~ ~ ~ ~
O * R dayar hyt att y ỻoer; y maent pym+
theg|mil a whechant. a phymthec
999
miỻtir ar|hugeint. O|r ỻoer hyt y mercuri+
ỽm y maent. seith mil. ac ỽythcant. a deudec
miỻtir a hanner. O|r mercuriỽm hyt att yr
heul y maent. teir mil ar hugeint. a phetw+
ar|cant. ac un uiỻtir ar|bymthec ar|hugeint.
O|r heul hyt att uarten y maent. pymtheg
mil a|whechant. a phump miỻtir ar|hugeint.
O|r varten hyt ar Jouen y maent. Seith
mil ac ỽyth cant. a|deugeint miỻtir a|hanner.
O|r Jouen hyt att saturniỽm. y maent seith
mil ac ỽythcant. a|deudec miỻtir a|hanner.
O|r saturniỽm hyt att y ffuruauen y maent
teir|mil ar|hugeint a phedwar|cant. Ac
vn uiỻtir ar bymthec ar|hugeint.
O|r dayar hyt att y nef y maent. can mil o
uilioed. a naỽ mil o vilioed. a|thrychant. a
phymthec miỻtir ar|hugeint. ~ ~ ~
*ỻyma weithyon dechreu brut y saes+
son ac mal y gỽledychassant.
G wedy kadwaladyr vendigeit a
goresgyn o|r saesson ynys brydein.
yn seith brenhinyaeth y rannassant o|r
rei y|bu yn gyntaf elly brenhin esex. yr
eil vu sellin brenhin sỽthsex. Trydyd vu
edylbricht brenhin kent. Pedweryd vu
Retwalt a|oed vrenhin ar vlaeneu ỻoegyr.
Pymhet vu edwin brenhin nordhỽm+
byrlont. Chechet* vu oswalt brenhin
y·rỽng trin a thued. Seithuet vu oswi
y vraỽt ynteu brenhin yr ysgottyeit
a|r ffichteit. ac ueỻy y bu ynys brydein
gan mlyned yn rannedic. a|theruysc
weithyeu y·ryngthunt e|hunein. gwei+
thyeu ereiỻ y·ryngthunt a|r brytanyeit.
Odyno. deng mlyned a deugeint ac
wythcant oed oet crist pan wledychaỽd
adewlff vab edylbrich. uab ermeric.
vab octa. vab orric. vab heyngyst. yn
ol offa vrenhin y mars. gỽr a uu arder+
chaỽc. ac a|derestyngaỽd ỻawer o vrenhiny+
aetheu.
The text O'r Ddaear hyd at y Lloer starts on Column 998 line 40.
The text Brut y Saeson starts on Column 999 line 19.
« p 248r | p 249r » |