BL Cotton Cleopatra MS. B V part i – page 33r
Brut y Brenhinoedd
33r
Ac yna y menegis llud y holl negesseu urth llyue+
lis y vraud. Ac yna y dywaut llyuelis y rodei ef
idaw y ryw bryuet. ac erchi idaw ev briwau mevn
dwfyr gwedy y delei adref. a dyuynnu paub y·gyt
o|r a oed yn|y deyrnas. a bwrw y dwuyr hwnnw yn
gyffredyn ar y bobyl. ac ef a gadarnhaei y bydei
varw y coranyeit. ac nad argywedei ar y bryt+
tannyeit. Eil ormes a dyweist* yw. dreic oc
awch kenedil chwi. a dreic arall o ystrawn ge+
nedyl yssyt yn ymlad pob nos calanmei. a ph+
ob vn onadunt yn keisiaw goresgyn ar y gy+
lid. a phan welo auch dreic chwi. y llall yn go+
resgyn arnei. yna y|dyd hitheu o lid y diaspat
yngiriawl a glywch chwi. A llyma val y gelly
di gwibot hynny yn wir. Pan delech adref par
vessuraw yr ynys y hyt a|y lled. a lle keffych
y pwynt perued. par gladu yno pwll. a gys+
sod kerwyn yn llawn o|r med goreu a geffir
yn|y pwll hwnnw. a dod llenn o|bali ar wyneb y
gerwyn. a byd dy hwn yn|y gwyliau. a|thi a|y gwe+
ly wynt yn ymlad yn aruthyr yn yr auwyr. ac
yn bwrw tanllachar. pob vn ar y gilid. A gwedy
y delwynt hyt pwynt perued o|r ynys. ny chilia
yr vn onadunt rac y gilid. ac yno y byd ymlad
engiriaul ryngthunt. a gwedy blinwynt; wynt
a ssyrthant yn rith deu borchell ar warthaf y llenn.
ac a sudant y llenn ganthunt. hyt yn|guaelaut
y gerwyn. a* yna gwedy y clywynt yn wlyb yn eu
kylch. yued y med a wnant. a bod yn vedw a
« p 32v | p 33v » |