Cardiff MS. 1.362 (Hafod 1) – page 40v
Brut y Brenhinoedd
40v
ac ereill a attelit yg keithiwet. Ac ereill a gyuar+
uu a llyghes diruaỽr a anuonassei gracian amhe+
raỽdyr hyt yn germania y ryfelu ar yr|aruortir
yn erbyn a wedassei y vaxen. Ac yn tywyssogyon
arnadunt gỽinwas vrenhin hunaỽt a melwas
vrenhin peitaỽ. A gỽedy kyuaruot y moryon* ar ys+
cymunedic pobyl honno. gỽedy gỽelet o·nadunt
teccet y gỽraged keissaỽ a|wnaethant ymdianarchu
ac ỽynt ac eilenwi y godineb. A gỽedy na mynei
y morynyon kytsynnyaỽ ac|ỽynt yn er|ewyllys
honno. Sef a|wnaeth y bradỽyr hynny llad y ran
vỽyaf o·nadunt ac yn diannot pan glyỽssant
bot ynys prydein yn anreithedic oc eu mar+
chogyon ac yn wedỽ. oc eu brenhin. Sef a|wna+
ethant bryssyaỽ eu hynt parth ac ynys prydein
A chymryt ygyt ac ỽynt porth vỽyaf a allas+
sant y gaffel o|r enyssed y poptu a dyuot yr alban
yr tir a dechreu anreithaỽ y gỽladoed a oed heb
amdiffynwyr arnadunt. a llad y bilaenlu ar
tir·diwyllodron. A gỽedy menegi hynny y vaxen
yd anuones gracian rodgymryt a dỽy leg o wyr
aruaỽc gan·taỽ y amdiffyn y brytanyeit. A gỽe+
dy dyuot gracian hyt yn ynys prydein dechreu
ymlad a oruc a|e elynyon a gỽneuthur aerua va+
ỽr a oruc o·nadunt. Ac eu kymell ar ffo hyt
yn iwerdo. Ac yn yr amser hỽnnỽ y llas max+
en yn rufein ac y gỽascarỽy* a oed y gyt ac ef
o|r brytanyeit; ac y ffoassant hyt yn llydaỽ;
« p 40r | p 41r » |