NLW MS. Llanstephan 27 (The Red Book of Talgarth) – page 40r
Ymborth yr Enaid
40r
honno. o anryded y drindaỽt. ac o nerth a gỽyrtheu corff crist
agatuyd ti a geffy hun araỻ berach no honno. a gỽelediga+
eth a vo perffeithach. Ac odyna diolch y|r|drindaỽt gan dyỽ+
edut y geiryeu vry. Molyant gogonyant. kymer hỽnnỽ
yn|dechreu y ỻyuyr. ~ ~ ~ ~ ~
D Ywetter beỻach am naỽrad engylyon y nef. a pha
ryỽ dynyon a|dylyer eu kyflehau ym·pob vn o|r gra+
deu hynny. Engylyon yn efrei a|elwir Malaoth. Sef yỽ
hynny y|nghymraec. kennadeu. kanys kennattau a mene+
gi ewyỻys duỽ a|wnant y|r bobyl. Naỽrad a|dyweit yr ys+
gruthyr lan y vot o engylyon. nyt amgen. Engylyon.
arch·engylyon. kadeireu. arglỽydiaetheu. tywyssogaetheu
medyanneu. nerthoed. cherubin. a seraphin. Engylyon
a|uanagant y dynyon negesseu bychein a ry archer ud+
unt eu menegi. ac y·gyt ac ỽynt y kyfleheir dynyon a
wypont y·chydic o|betheu dỽywolyon. ac a dysgont hynny
yn garedic drugaraỽc y ereiỻ. Arch·engylyon. tywyssogy+
on. yr|engylyon ynt. kanys y petheu mỽyaf a uanagant.
a rei onadunt a|gaỽssant eu henweu ỽrth eu gỽassanae+
theu. megys y rei hynn. Mihangel. gabriel. raphael. Mi+
hangel a|gyfyeithyr vn megys duỽ. neu a gaỻu duỽ. hỽn+
nỽ a|anuonir y|r ỻe y bo gỽyrtheu neu eres betheu. Gabriel
a gyfyeithyr yn gedernyt duỽ. Hỽnnỽ a|anuonir y|r ỻe y
manacker dwyỽaỽl gedernyt. megys yd anuonet y vene ̷ ̷+
gi y veir wyry y bot yn gyflaỽn o gedernyt yr yspryt glan.
Raphael a|gyfyeithyr yn vedeginyaeth duỽ. hỽnnỽ a|anuo+
nir y|r ỻe y bo reit ỽrth iechyt eneit. neu gnaỽt megys yd
« p 39v | p 40v » |