NLW MS. 3035 (Mostyn 116) – page 189v
Brut y Tywysogion
189v
rei o|r casteỻwyr a|charcharu ereiỻ. Y vlỽydyn hono yd aeth Jeuan
vrenhin a|diruaỽr lu gantaỽ hyt yn jwerdon ac y|duc y ar
veibon hu dylasai y|tir a|e kestyỻ a gỽedy kymryt gỽrogaeth
y gan baỽb o|jwerdon a dala gỽreic ỽiliam breỽys a gỽilim
jeuanc y vab a|e wreic a|e vab a|e verch yd ymhoelaỽd y loeger yn
anrydedus. ac yna y ỻadaỽd ef wilim jeuanc a|e vam o an+
rugaraỽc agheu yg|kasteỻ windylsor. Y|vlỽydyn hono yd
adeilaỽd jarỻ caer ỻeon gasteỻ deganỽy yr hỽn a torrassei
ỻywelyn ap joruerth gyn no hẏnẏ rac ofyn y brenhin. ac yna heuyt
yd adeilaỽd y iarỻ hỽnỽ gasteỻ terfynnaỽn ac y diffeithaỽd
ỻywelyn ap joruerth gyuoeth y jarỻ hỽnỽ. ac yna wedy hedychu
o|rys gryc a|r brenhin drỽy nerth y brenhin y goresgynaỽd
gasteỻ ỻan ymdyfri. kanys y kasteỻwyr wedy anobeithaỽ
o pop nerth a rodasant y casteỻ ac vn amỽs ar pymthec
yndaỽ duỽ gỽyl veir y|medi. drỽy amot kael o|r casteỻ+
wyr y kyrf a|phop peth o|r eidunt yn jach. Y vlỽydyn hono
amgylch gỽyl andras y goresgynaỽd gỽenỽynỽn y gyuoeth
drachefẏn drỽy nerth jeuan vrenhin ac o|lewenyd hẏnẏ yd
hedychaỽd mael·gỽn ap rys a|r brenhin a heb goffau y ỻỽ
a|r aruoỻ a vuassei y·rygtaỽ a rys ac ywein Meibon gruffud
ap rys y nyeint. kynuỻaỽ diruaỽr lu o|freinc a|chẏmrẏ
y·rygtaỽ a phenwedic ac y doeth hẏt yg kilkennin ac yno
pebyỻaỽ a oruc. ac yna y kynuỻaỽd rys ac ywein Meibon
gruffud trychanỽr o|etholedigẏon teuluoed a hyt nos kyrchu
ỻu maelgỽn a orugant a|ỻad ỻawer a dala ereiỻ a gyru y
dryỻ araỻ ar|fo. ac yn|y vrỽydyr hono y delit kynan ap hyỽel
nei mael·gỽn a gruffud ap kadỽgaỽn penkyghorỽr maelgwn
ac y ỻas einaỽn ap cradaỽc ac aneiryf o rei ereiỻ. ac yno
« p 189r | p 190r » |