NLW MS. Peniarth 11 – page 169v
Ystoriau Saint Greal
169v
lewenyd wylaỽ. Ac ygyt y kerdassant yny doethant y lys y
meudỽy. a|diosc eu harueu a|orugant. Ac yn|y ty yd oed cares
y|r meudỽy. ac a|vuassei yn gỽassanaethu paredur tra vu yn
glaf. ac a|wydyat uedeginyaeth. a golchi y bratheu a|wnaeth
hi. ac arganuot bot yn waeth y briwassei laỽnslot no pharedur.
ac yn beỻach y ỽrth iechyt. A vnbennes heb y meudỽy beth a
debygy di am y|marchaỽc yna. Ef a|vyd reit idaỽ orffow+
ys yn hir heb hi. kanys periglus yỽ y ỻe y kafas y dyrnaỽt.
a|oes berigyl angheu arnaỽ ynteu heb y meudwy. Nac oes heb
hi. ac ys|byd an·myned ganthaỽ y orffowys yman. Je heb y
meudỽy. bendigedic vo enỽ dvỽ. am vy nei inneu beth a|we+
lir ytti. Ef a vyd iach yn ehegyr. Yr vnbennes yna a|vu ystic
yngkylch y gỽyr oc eu hyachav. Eissyoes doluryus vu gan
laỽnslot y beỻet y ỽrth iechyt. Yma y|mae y kyfarỽydyt yn teỽi
am y deu uilỽr hynny. ac yn traethu am y mab yr hỽnn a|gyf+
aruu a gỽalchmei yn|y fforest yn|dywedut yr|aei y geissyaỽ
mab y wreic wedỽ. yr hỽnn a|ladyssei y dat. ~ ~
E * Mab m a|gyrchaỽd ỻys yr amheraỽdyr arthur. ka+
nys clywssei dywedut panyỽ yno yr|oed lettyeu y mil+
wyr da. A phan doeth ef yno ef a arganuu y|daryan yngcroc
ar y golofyn. yr|honn|a|dugassei morynyon y gadeir yno. ac yn
ynteu a|adnabu y daryan. Ac yna gostỽng ar benn y lin a|o ̷+
ruc y mab a chyfarch gỽeỻ y arthur. ac arthur a beris idaỽ
gyuodi y vyny. ac a|o·vynnaỽd idaỽ pỽy oed. Arglỽyd heb
ef mab ỽyf i y|r marchaỽc a|r daryan goch idaỽ o fforest y
gỽasgaỽt. a|r marchaỽc a|dylyei dỽyn y|daryan racko a|e
« p 169r | p 170r » |