NLW MS. Peniarth 11 – page 190r
Ystoriau Saint Greal
190r
a|pha|ryỽ daryan oed idaw ef. Arglỽyd heb hi tra vu ef yn|y
tỽrneimant yd oed idaỽ ef arueu gỽynnyon. a|chyn no hynny yd
ymaruerei ef o arueu eureit. A unbennes heb·y laỽnslot. a|ad+
nabu ef walchmei neu walchmei ynteu. Nac adnabu arglỽyd
heb hitheu. am yr hynn y mae ef yn drist ac yn|doluryus. kan+
ys y marchaỽc hỽnnỽ yd oed ef yn|y geissyaỽ. Ae paredur oed
ef heb·y laỽnslot. Je arglỽyd arglỽyd* heb hi. Och vi heb ynteu
beth a|wnaei nas atwaenat ef. ac a|wdost di pa le yd aeth ef. Ac
ar hynny ymwahanu a|wnaethant ỽy. a marchogaeth a|oruc
ef yny yttoed yr|heul yn mynet y gysgu. a|r fforest yn tywyỻu
yn uaỽr arnaỽ. ac edrych o bop parth i·daỽ a|oruc ef. y edrych
a|welei un ỻe y gallei gael gorffowys yndaỽ. Ac ar hynny yr
oed corr wedy y arganuot ef. ac nyt arganuu ef y corr. yna
y corr a redaỽd ar|hyt ỻỽybyr bychan hyt yn|ỻe yr|oedynt y
marchogyon ỻadron. myỽn ryỽ lys udunt. ac yr oed udunt
ỽy le araỻ pan elynt y yspeilyaỽ. yn|y ỻys eissyoes yd oed vorỽ+
yn ieuanc yr honn a|sommei y marchogyon a|delynt fford yno
o wledyd ereiỻ. a|r|corr a|doeth att y vorwyn ac a|dywaỽt ỽrthi.
Ef a|weler heb ef yr aỽr·honn pa|delỽ y|dielych di ar y gỽr a
ladaỽd dy deu vroder a|th ewythyr a|th gevynderỽ. Mi a|brofaf
hynny heb hi. a|bit gennyt titheu aruot da y rybudyaỽ y
marchogyon ereiỻ. Bit ar vym|perigyl i heb y corr am|hynny.
Gan|hynny heb hitheu nyt oes fford idaỽ ef y dianc y gennym.
yny vo marỽ. Yr vnbennes a|oed vn o|r rei teckaf ac yn da y
gỽisgat. Eissyoes callon drỽc oed idi hi ac nyt oed ryued. ~
kanys ar gribdeil a|ỻedrat y magyssit hi. a hi e|hunan a|vuas+
sei ganhorthỽy y wneuthur ỻawer o|drỽc a|ỻedrat. ac ar hynny
« p 189v | p 190v » |