NLW MS. Peniarth 11 – page 212r
Ystoriau Saint Greal
212r
ar y uedyr ef. neu ynteu a|e dygei ganthaỽ e|hun. Ac ynteu
a|e|gedewis ygyt a|hi am na wydyat pa wlat y damwheinyei idaỽ
vynet. Yr ystorya yssyd yn dywedut marchogaeth ohonaỽ
odyno yny doeth diwarnaỽt hyt yng|kasteỻ y tỽr elydyn. ac
yn|y casteỻ hỽnnỽ yr|oedynt ỻawer yn adoli y tỽr elydyn. ac yn cre+
du idaỽ. a heb gredu dim y|duỽ. Y tỽr hỽnnỽ a daroed y ossot ar
bedeir colofyn o vaen marmor. ac ef a roi breferat ym pob aỽr
o|r dyd ual y clywit hanner miỻtir yn|y gylch. ac yndaỽ yr oed
yspryt drỽc yr hỽnn a attebei y baỽp ohonunt o bop peth o|r
a|ovynnynt. ac ar y porth y fford yd eit y|r casteỻ y|myỽn yr ̷
oedynt deuwr wedy|r wneuthur o elydyn drỽy geluydyt nigro+
maỽns. ac yn|ỻaỽ bop un yd oed ord o haearn. ac a|r rei hynny
yn ffustaỽ y ỻaỽr bob eilwers yn ffestaf ac y geỻynt hyt nat
oed neb a|lyuassei. nac a amcanei vynet y|r porth rac eu hovyn.
A|r casteỻ heuyt a|oed yn gyn|gadarnet o bop parth idaỽ ac
nat oed neb a aỻei na dyuot y|myỽn na mynet aỻan. onyt
drỽy y porth. ny lyuassei neb ynteu y|r|fford honno vynet.
Paredur a|edrychaỽd ar gedernyt y casteỻ. ac ar beriglỽyd y
porth. ac a|vu ryued ganthaỽ. namyn yr hynny ef a doeth
ar|hyt y bont hyt yn ymyl y mileinyeit elydyn a|oedynt yn
gỽarchadỽ y tỽr. Ac yna ef a glywei lef uch benn y porth yn
dywedut ỽrthaỽ. dabre y myỽn yn|diarswyt ac na vygyla o
dim. ac ynteu a|gyrchaỽd y myỽn. a|r mileinyeit a|beidyas+
sant a|e hymguraỽ. ac ynteu a|doeth hyt y ỻe yd oedynt ỻawer
o|dynyon angcredadun yn eisted ac yn adoli y|r tỽr elydyn.
A|r tỽr yn brefu yn gyn ffestet ac na aỻei neb glywet y gilyd.
« p 211v | p 212v » |