NLW MS. Peniarth 12 part ii – page 58r
Ystoria Lucidar
58r
da heb rỽyf eissyeu. discipulus Dywet ym hynny yn amlygach. Magister.
Seith gogonyant gỽahanredaỽl a|vyd y|r corff. a|seith y|r
eneit. yn|y corff y|byd tegỽch a|buanrwyd a chedernit a rydit
a Jechyt ac ewyỻys a|hirhoedyl. Yn|yr eneit ynteu y byd do+
ethineb a duundeb. a|chedym·deithyas a medyant. ac enryded
a|diogelrỽyd o lewenyd. discipulus Ti a|m|dyrchefeist i yn vch no my
hun o|r hynn a|chwenychaỽd vy eneit y warandaỽ. Mi a
archaf ytt yr aỽr·honn dangos ym o ryỽ vodeu am bryt
absalon. Magister A rangei vot ytti bettut kyn decket ac absalon.
yr|hỽnn nyt oed vann ar y gorff mỽy noc ar yr|eiry newyd
odi. a|e waỻt a|oed kyn decket ac y rodei wraged yr israel
naỽ talen o eur yr a|dorrit bop blỽydyn o ormodyon y
waỻt. discipulus Owi o|r gogonyant hỽnnỽ. Magister Beth oed gennyt
y·gyt a|thegỽch hỽnnỽ pei bydut kyn|vuanet ac assael
y gỽr a drossei r iyrch y|r|fford y|mynnei o redec. discipulus Owi o|r
clot hỽnnỽ. Magister Beth y·gyt a|r deu hynny pei|bydut kyn
gadarnet a sampson. y gỽr a|ladaỽd mil o|wyr aruaỽc
ac asgỽrn gen assen. discipulus Owi o|r diruaỽr anryded. Magister Beth
y·gyt a|r tri hynny. pei|bydut kyn|rydet ac y bu cesar aỽ+
gustus. y gỽr y bu gaeth yr|hoỻ vyt idaỽ. discipulus Owi o|r eglur+
der. Magister Beth y·gyt a|r pedwar hynny pei kaffut bop peth
ỽrth dy ewyỻys megys selyf y gỽr a|gaffei bop peth o|r a
damunei ewyỻys y gaỻon. discipulus Owi o|r melyster. Magister Beth
y·gyt a|r pump peth hynny. pei|bydut dy hun kyn iach+
et a moẏsen y gỽr ny siglaỽd dant idaỽ yn|y oes. ac ny
thywyỻaỽd ỻygat. discipulus Owi o|r hynaỽster. Magister Beth y·gyt a
hynny pei bydut kyhyt dy hoedyl ac y bu uatusalem.
« p 57v | p 58v » |