NLW MS. Peniarth 5 (The White Book of Rhydderch, part 1) – page 17v
Mabinogi Iesu Grist
17v
gan Duỽ y caussoedat na bei varỽ yny welei Grist vab Duỽ yn y gnaut yn y vyỽ. A phan welas y mab y
dyỽot yn vchel iaun. Neur ouỽyaud Duỽ y bluydf. ac neur eflenỽis y edeỽit. ac ar vrys y doeth
y adoli y mab. A guedy hynny y kymerth y mab yn y vantell dan wediaỽ. ac y cussannaud guadn+
eu y traet. ac y dyỽot Yr aur honn y gedy ty dy was y tagneued. Yna yd| oed yn y temyl Anna
verch Samuel o lỽyd Asser. a honno a vuchedoccassei gyt a| e gur o| e gỽyrdaut yr yn seith
mlỽyd. ac yna yd yttoed wedu druy yspeit pedeir blyned a phetuar ugeint. ac yn y temyl
yn wastat yn kynnal wympryt a guedy. Ac y wediau y mab y doeth. ac y dyỽot. Yn hỽnn y mae
prouedigaeth y bopyl. Guedy yspeit duy vlyned y doethant y deỽinyon o| r duyrein y Gaeru+
salem. ac anreccyon maur ganthun. Ac ar hynt y gouynyssant yr Ydeon mae y brenhin
a anet y ni. ny a ỽelsam y seren ef yn y duyrein. a nynheu a doetham y wediaỽ. Y chỽedyly+
aeth a aeth ar Erot vrenhin. ac yna y kynnullaud Herot hyneif y Ffarisewydon a dyscỽ+
yr y bobyl. A gouyn vdunt. Pony prophuyduys y prophuydi ganedigaeth Grist. Wynteu a dyỽeda+
ssant vot yn ỽir hynny. ym Bethleem. Yna y gelỽis Herot y deỽinyon. ac y gouynnaud pa
bryt yd ymdangosses y seren udynt. Odyna yd anuones y rei hynny y Vethlem. Euch heb ef
tu a Bethlem. a gouynuch y mab. Guelet a ỽnaeth ef vot y deỽynyon a aethoed y geissaỽ y
mab heb diỽat. ac yn y dỽyllau. Yna y kyffroes ar yrlloned druy ennynedigaeth diruaur
lit. ac yd anuones gennadeu o| e keisiaỽ yn y eu herbyn y bop fford. Ac erchi ev dala ac ev
llad. Guedy na allỽyt cael y dewinyon y anvonnes kennadeu y Vethlem. a| e holl teruyneu
y erchi llad holl veibon bychein a geffit. Dydgueith kynn dyuot y kynnadev ar dal y lle ydd| o+
edynt. nachaf agel o nef yn dyuot truy y hun ar Iosep. ac yn dyỽedut ỽrthaỽ. Dos ymde+
ith ti a Meir a| r mab genuch ar hyt dydryf a fford diffeith hyt yr Eifft. Iosep a ỽnaeth
heruyd gorchymyn yr agel. Eu hynt a gymerssant. ac a gyrassant tu a| r ogof y vynnỽ gor+
ffuys yndi. yna y disgynnaud Meir y ar yr assen. ac a eisted a
wnaeth Meir a| r mab ar y harffet. Nachaf yn deisyuyt llauer o seirff yn dyuot o| r ogof.
Ac ofynhau a ỽnaeth Meir pan y guelsant. Yna y doeth y mab o arffet y vam y| r llaur
ac y kerdod. ac y seuys ar y nadred. wynteu adolyssant Iessu. ac a gilyassant y vrthunt.
Yna yd eflenỽit yr hynn a dyỽot Ysayas prophuyt. Y seirff o| r daear adadoluch yr Argluyd.
Y mab a gerdod oc eu blaen. ac a orchymynnaỽd vdunt. nat argyỽedyn y neb ryỽ dyn.
Meir a Iosep a ofuynnaud rac gueuthur ohonunt godyant yr mab. A Iessu a dyỽot vr+
thunt. Na deluch ofuyn amdanaf i. yr vy mot. i. yn vab. perffeith ỽyf i. ac agkenreit yỽ
y holl wuystuileit guyllt o| r koedyd bot yn dof ger vy mronn y. ac yn hynnaus. Y lleot. a| r
pardyeit. a| r anyueileit creulaun a oed yn eu guediaỽ. ac yn kytgerdet ac wynt. ac yn eu
ketymdeithoccav yn y diffeith. A pha du bynnac y kerdynt. yr anyueileit kynny a oed
oc eu blaen yn menegi fford vdunt ac yn guediaỽ y mab. A phan welas Meir hynny
ac amraualyon genedyloed bvystuileit yn eu herbyn. y delis ouyn. O laỽen oluc
y mab a edrychod arnei. ac a dyỽot. Vy mam y nac ofuynhaa. nyt yr sarhaet ytt
y deuant. namyn yr dy ỽassanaethu y dybryssyant. ac yn y bydynt dywededigyonus. pethev
ef a tynnaỽd y mab ofuyn o| e callonnev. Yna y kerdod y lleỽot gyt a| r essyn a| r ychen oed
yn arỽein y hagenreiteu. ac nyt argyỽedynt y neb. yr y pressỽyluaeu y gyt namyn hyna+
ỽs oedynt ym plith y deueit. a| r meherin a dugassant gantunt o Iudea. ac a oed y·gyt
ac wynt. y·gyt a| r bleideu y kerdynt. ac nyt ergrynynt dim. ac nyt argyỽedei yr vn o| e
gilyd. Yna yd eflenỽit geireu y prophuyt. Y bleyd a| r oen a besgit y·gyt. y lleỽ a| r arth a borant
beissỽyn y·gyt. Yna yd oed deu ychen yn dỽyn kerbyt ac eu haghenreiteu yndaỽ. Yna y+
d oed Veir guedy blinaỽ gan tra gures yr heul yn y ditryf. a phren palym a gyherdod ac
wynt. a Meir a dyỽat ỽrth Iosep. Mi a orffyỽysaf ychydic dan wasgaut y prenn. Iosep
a tynnaỽd Meir y ar yr assen y| r llaỽr. A phan eistedaud Meir wynvydedic. edrych a ỽna+
eth ar vric y prenn. a hi a ỽelas y prenn yn llaỽn o aualeu. ac y dyỽot ỽrth Iosep. Mi a
hỽenychun peth o ffruyth y prenn. pettei a allei eu caffel. Iosep a dyỽot vrthi. Ryved yỽ gen+
nyf y dyỽedyt o·honnot|i hynny rac vchet bric y prenn. a medylyaỽ o·honat cael peth
o| r ffruyth o le kyuuch ac y mae. mỽy yssiỽet yỽ gennyf am dỽfyr. Kanyt oes dim yn y
costreleu. ac nat oes le y ymgyghori y geissaỽ dỽfyr. Yna y dyỽot y mab ac yn eisted
« p 17r | p 18r » |