NLW MS. Peniarth 5 (The White Book of Rhydderch, part 1) – page 37r
Ystoria Titus
37r
hynny ennynnv o gyghoruynt a| e guhudhau vrth yr hynneif a thywyssogyon yr effeireit. a| e
rodi truy gyghoryuynt y agheu. a guedy y tynnv y ar y groc y dodi y|myvn bed. a| r trydydyd y
kyuodes duv ynteu o veirv. megys y racdywedassei e| hunan. ac y ymdangosses y disgyblon yn y cnavt
y diodefuassei yndau. a bot ygyt ac wynt deugein pryt. ac ac wynt yn y welet y kymervyt y nef
y|gantunt. ac y gorchymynnvys bettydyav yn env y tat a| r mab. a| r yspryt glann. ac a edevis
vdunt hyt yn diwed yr oessoed bot ygyt. Ac y dec disgybyl a thriugeint y gorchymynnvys pre+
gethu y gyuodedigaeth. ac y rei a gyuodessynt kynn o hynny y|gleindit. ac y rei ac gyuodessynt
gyt ac ynteu. ac ydevis deudegiyeith a thriugeint amryv ar hyt y byt. Ac yd oed yna yg
gwlat ni gvreic a eluit veronic. ac a oed yn diodef heint ys deudeg mlyned. ac a gauas iech+
yt y|ganthav. ac o| e garyat ynteu y kymerth y wreic honno y|myvn lliein drech y wyneb ef.
Ac weithon a del o dynyon a heint arnunt y adoli y delv honno a gaffant iechyt. Ryuedu hynny
a oruc titus pan y kigleu a dyvedut. Guae ti tiber amperaudyr. guae di. dy vot yn travedic o glauri.
ac yn damgylchynedic o deruysc pan anuones y ryv tywyssogyon hynny y| th wlat ti a lada+
ssant vab duv. rydhaur yn eneiteu ni. Mi a dywedaf yti eissoes yn wir pei bydynt y tyw+
yssogyonn hynny rac vy mron i. mi a ladvn eu penneu y rei onadunt. ac a grogun ereill o| r rei
a grogassant yr hvnn ny bu deilung y| m llygeit i y welet. Pan daruu hagen y titus dyvedut
hynny o ymadraud; y dygwydvys y cranc o| e wyneb. ac y bu gynn iachet y le a chynn y vot yno.
pan vu iachaf eiroet a theccaf. Ac o hyt y benn y dyvat titus vyn tywyssauc i a| m duv i a| m bren+
hin. Ni weleis i didi eiroet. ac eissoes can credeis yt yd wyf yn iach. Par ym dyuot y daear y
anedigaeth ti val y caffuyf vudugolyaeth o| th elynyon. ac y guascarvyf wynt o| r daeareden hon+
no hyt na bo a bisso ar y paret. Ac odyna y dyvat vrth nathan. Pa ryv arvyd a rodes ef y
ffydlonnyon a grettei idav. Eu bettydyav y|myvn dvuyr hep·y natan. Mi a gredaf yn yr hvnn
a| m goruc yn iach. A bettydya titheu vivi mal y gorchymynnvys ef. Ac erchi y nathan y vett+
ydyav yn eno y trindaut. Pan daruu hynny yd anuones kennadeu yr eidal at vaspasian y tat
ac erchi idav dyuot attav a| e niver yn aruauc val kyt elhei y vrvydyr. canys ovyn mordvy oed
ar titus. Ac yn y lle y doeth ynteu at y vab a deudeg mil ganthav. o wyr aruauc mal y kyt elei
y vrvydyr. A phan doeth y dinas burdegal y gouynnvys pa achaus y dyuynessit yno. Vyn tat hep
ynteu dyn a vu anuonnedic y gan duv. ac a anet o vorvyn wyry. ac y doeth y| r byt yr iachau
kenedyl dynyavl. Ac a doeth y wlat iudea ac a anet ym bethlem. Ac a wnaey wyrtheu ar ny welet
gynn o hynny. Ef a wnaeth win o| r dvuyr. Ac o| r pym torth a| r deu pysc a borthes pym mil o dyny+
on. y| r deillonn y rodes eu goluc. Ac y| r bydeir eu klybot. Ac i| r crupleit eu pedestric. a grym eu holl
aelodeu. ac a vei rvymedic y gan dieuyl a rydhauys. Ef a ymdavys ar wynep y tonnev ar y mor.
Ac ar ny ellit y rif o wyrtheu ereill a wnaeth. A phan welas yr ideon hep ef hynny; o gyghoruynt
y crogassant ef y|myvn prenn. ac y lladassant y chuennychu diffodi y eno o| r daear. Ac eissoes y try+
dydyd y kyuodes ef yn vyv o ueirv ac ymdangos y disgyblon yn y cnavt y diodefuassei yndav. Ody+
na ym penn y deugeinuet diwarnaut ac wynt yn edrych arnav y kymervyt y nef. ac y mae yn
eisted ar deheu duv tat. Ac awn ninheu dat y wlat iudea y dial ynteu ar y elynyon. ac y dileu eu
henveu wynt o| r daear. Ac o gyt gyngor y kerdassant y vordwy. a guedy adav gvaran kyrchu
mor y dwyrein. a gvediav yr argluyd iessu ar y kyuarchuelut y wlat y iudea. A duv a werendevis
eu guedi. ac a| e trosses y| r lle yd oed damunet gantunt ac wy ac eu llynghes. A chylynu gvlat
yr ideon a orugant a gvneuthur lladua vaur onadunt. A phan gigleu y brenhined a thywyssog+
yonn y wlat hynny kynnhyruu a orugant a diaruodi. a disennhvyrav. a digalonni. a dyvedut.
Pvy heb wynt y bobyl yssyd mor gadarnn a hynn yn an herbyn ni. Pobyl rufein yv honn hep vn
yn mynnv dial o iessu yr hvnn a grogassauch chui. ac a ladassauch. Er aur honn y cuplavyt pro+
ffuydolyaeth balaam. a dyvat. Ef a dyvyra seren o iago. ac ef a gerda guialen o| r israel. ac ef
a dav o| r dial a lado yr ideon. a holl daear y rei hynny a vyd eidav gvyr yr eidal. Pan gigleu arche+
laus mab herot hynny; digallonni a oruc. a gossot y wayw yn y daear a mynet ar y vlaen a gvneuthur
y leith e| hun. Pilatus hagen a lluossogruyd o| r ideon a gyrchvys y gaerussalem ac a gaeassant y di+
« p 36v | p 37v » |