LlB Llsgr. Cotton Cleopatra B V rhan i – tudalen 122r
Brenhinoedd y Saeson
122r
russaf brenhin y bryttannyeit. ac y diboby+
lat mynyw o genedyl an·ffydlawn ac y lla+
dassant morgeneu escop mynyw. Anno
domini.ixciiijxxxix. y diffeithwyt dulyn y|gan
yscottieit. Ac yd oed kynan vab howel
yn kynnal gwyned. Pan oed oet crist
mil o vlwynyded y diffeithwyt dyvet y gan
anfydlonneon. Anno domini.m. i. y bu varw
mor vab Gwyn. ac Jvor porthalarchi. Anno
domini.miij. y llas kynan vab howel. Anno domini.
miiij.y dallwt Gulfach ac vbiat. Anno domini.
mv.y bu kyntaf decem·nouenalis. cicli.
Anno domini.mxi. y diffeithwyt myniw y gan
y saesson. ac y bu varw vbis haeardur ma+
nach o Enlli. Anno domini.mxij. y doeth Swanus
vab harald brenhin denmarc a llynghes
ganthav y goresgyn lloegyr. a gyrru edelret
vrenhin ar ffo a|y wreic a|y deu vab hyt yn
normandi at Robert braut y wreic.
Ac yna y goresgynaud Swanus holl loegyr
drwy dwyll Edrich jarll amhwithic a
chaer vyrangon a chaer loew. canys pob ky+
vrinach o|r a vei yn llys edelredus vrenhin.
ef a|y hanvonei ar Swanus brenhin denma+
rc. A gwedi goresgyn ohonaw lloegyr; kyn
penn y vlwydyn y bu varw Swanus. Ac y detho+
les gwyr denmarc Chnout y vab yn vren+
hin heb gyuarch dim yr saesson. a hagyr
uu ganthunt hynny.
« p 121v | p 122v » |