LlGC Llsgr. Peniarth 11 – tudalen 56r
Ystoriau Saint Greal
56r
offeiryat a|duc idaỽ ryỽ ansaỽd ac a|oed ganthunt. A gỽedy
hynny ef a|gychwynnaỽd drỽy gannyat yr anckres a|r offei+
ryat. ac a varchocaaỽd yn hyt y dyd. A|r nos honno ef a|gysgaỽd
ar warthaf creic. heb neb ryỽ gedymdeithyas idaỽ onyt duỽ. a
thrannoeth pan|weles y|dyd ef a ymgroessaỽd ac a|doeth att y va+
rch. ac a|e kyfrỽyaỽd ac a|esgynnaỽd arnaỽ. ac a varchockaaỽd
y wastattir rỽng dỽy greic. ac a|doeth hyt yr auon a|elwit mar+
sois. Yr honn a|oed yn rannu y fforest yn|dỽy|rann. Ac yna ef a
vedylyawd nat oed fford idaỽ amgen onyt ymchoelei drachefyn
no mynet drỽy yr auon. Ac yna dodi y obeith yn duỽ a|oruc. A
phan yttoed yn medylyaỽ ueỻy. ef a|welei yn|dyuot o|r dỽfyr.
marchaỽc urdaỽl du maỽr kyn|duet a mwaren. Ac ar|geuyn
march kymeint kyn duet ac y perthynei ỽrth hynny. A|phan we+
les ef laỽnslot ef a|ostyngaỽd y baladyr tu ac attaỽ heb dywedut
vn geir. ac a|dreỽis march laỽnslot yny vyd yn varỽ. A|gỽedy
daruot idaỽ ỻad y march. ef a aeth ymeith heb welet dim y|ỽrth+
aỽ yn enkyt bychan. A|phan weles ynteu daruot ỻad y varch ny
lidiaỽd dim yr|hynny. kanys duỽ agatuyd a|oed yn mynnv hynny.
Ac y|nglann yr auon y goruc ef ymdiarchenu o|e arueu a|gorffoỽys.
ac aros kanhorthỽy duỽ arnaỽ. kanys ny welei ef fford y gaỻei
diangk o|e eneit. kanys yr oed yn rwymedic o bedeir|fford. yn gyn+
taf o fforestyd diffeith ar|neiỻ tu. a dwy greic a|oed o pob parth idaỽ.
ac avon dovyn beriglus a|oed yno. Ac|yno y trigyaỽd yn gỽedi+
aỽ duỽ rac profedigaetheu kythreul. ac ar gyfrann* a|e eneit
lewenyd teyrnas nef. Yma y|mae yr ymdidan yn|tewi
am laỽnslot. Ac yn trossi ar walchmei ~ ~ ~ ~
« p 55v | p 56v » |