Llsgr. Caerdydd 3.242 (Hafod 16) – tudalen 16
Llythyr Aristotlys at Alecsander: Pryd a Gwedd Dynion
16
Gỽaethaf llygeit yỽ rei y bo manneu gỽynyon neu
duon. neu gochyon o bob parth udunt. kanys gỽaeth
yỽ y|dyn hỽnnỽ no neb araỻ. Aeleu bleỽaỽc iaỽn a
arỽydockaa ymadraỽd tramgỽydus. Y|neb y bo idaỽ
aeleu crogedic yn estynnu tu a|e arleisseu; dyn bu+
dyr yỽ hỽnnỽ. Y neb y bo idaỽ aeleu teneu kymessur
o hyt a|byrder ac ỽynteu yn vaỽr; arỽyd yỽ ethrylith
a|dyall. Pỽy|bynnac y|bo idaỽ trỽ·yn ỻym ỻidyaỽc vyd
Y|neb y|bo trỽyn hir idaỽ yn estynnu tu a|e eneu; ffe+
nedic vyd a gleỽ. Y neb y bo trỽyn byrr. teruysgus
vyd. Y neb y bo idaỽ froeneu agoret ỻydan ỻidyaỽc
vyd. Y neb y bo idaỽ trỽyn yn|drychafel yn|y genaỽl
dywedỽydaỽl vyd a chelwydaỽc. Goreu trỽyn yỽ vn
kymedraỽl o|hyt a|ỻet a|e ffroeneu yn vaỽr. ac wy+
neb ỻyfyn heb chỽyd yndaỽ. dyn keintachus afre+
olus vyd sarhaetgar a budyr. Y neb y bo wyneb
kymhedraỽl idaỽ yn troi ar vraster yn|y rudyeu
a|e arleisseu; gỽiryon vyd a charedic a|deallus a
doeth a|gỽassanaethgar a chỽrteis ac ethrylithrus.
Y neb y bo geneu ỻydan; ymladgar vyd a|gleỽ. Y
neb y bo gỽeuusseu bras; ynuyt vyd. Y neb y bo
idaỽ wyneb cnoedic tyỻaỽc ỻetynuyt vyd ac anghyflyry+
us a geuaỽc. Pỽy bynnac y bo wyneb aduein idaỽ;
da vyd a charueid ac ethrylithrus. Y|neb y bo wyneb
vychan glas idaỽ; drỽc vyd a|gỽydyus a thỽyỻỽr
a medỽ. Y neb y bo wyneb hir iaỽn idaỽ; sarhaet+
gar vyd. Y neb y bo arleisseu hỽydedic idaỽ; ỻidy+
aỽc vyd.
« p 15 | p 17 » |