LlGC Llsgr. Llanstephan 27 (Llyfr Coch Talgarth) – tudalen 140r
Purdan Padrig
140r
Pỽy bynnac a el dan benyt yn aruaỽc o|ffyd iaỽn y|r ogof
honn. a thrigyaỽ yndi dydgỽeith a nosweith. ef a burhe+
ir o|e hoỻ bechodeu. A gỽedy kerdo trỽydi ef a|wyl poeneu
y rei drỽc. ac o|r byd gỽastat yn|y ffyd ef a wyl ỻewenyd
y rei da. Ac odyna y|difflannaỽd yr arglỽyd y ỽrth badric
a|e adaỽ yn gyflaỽn o ysprydaỽl digrifỽch. Y gỽynuydedic
badric a|o·beithei yna ymchoelut y bobyl honno oc eu
kyfeilyorn. ae yr ymdangos o|r arglỽyd idaỽ. ae o dangos
yr ogof udunt. Ac ar hynt kyweiraỽ eglỽys a oruc ef yno.
A|r gỽynuydedic aỽstin yn tat ni a ossodes canonwyr a re+
ol yr ebystyl yn|yr eglỽys honno. a|r ogof honno yssyd
yn|y vynwent yn|y tal att y dwyrein y|r eglỽys. ac y gỽna+
eth mur kadarn yng|kylch honno. a phorth ar y mur.
a chlo kadarn ar|y porth. hyt na cheiff neb vynet idi heb
gennat. A gorchymyn a|oruc prior yr eglỽys gadỽ yr
aỻwed. Ac yn oes y gỽynuydedic aỽstin ef a|aeth ỻawer
y|r ogof honno y gymryt eu penyt. a|r rei hynny pan
delynt odyno a|dygynt tystolyaeth ar welet ohonunt y
poeneu mỽyaf. a|r ỻewenyd mỽyaf megys y geỻynt eu
pỽyssaỽ. a|r rei hynny a erchis y gỽynuydedic badric eu
nodi yn yr eglỽys honno. Ac o achaỽs tystolyaeth y rei hyn+
ny y kymerth rei o|r dechreu pregeth y gỽynuydedic ba+
dric. A chanys yn|y ỻe hỽnnỽ y purheir dyn o|e bechodeu
y ỻe hỽnnỽ a elwir purdan padric. a|ỻe yr eglỽys a elwir
A Gwedy marỽ padric sant yd oed gre +[ berslys.
vydwr da yn brior yn|yr eglỽys honno. A gỽedy
ỻesgu o heneint ac nat oed vn dant yn|y benn namyn
vn.
« p 139v | p 140v » |