LlGC Llsgr. Peniarth 45 – tudalen 229
Brut y Brenhinoedd
229
rỽn tra uydỽn ninheu yn dial uy ryeni ar+
nadunt. Ac yn amdiffyn an rydit. Ac yn
dyrchauel an brenhin. Ac y achwanegu
dy lu titheu arglỽyd heb ef yr neges hon
Miui a rodaf dỽy uil o uarchogyon arua+
ỽc heb y pedyt. Ac gwedy dywedut o baỽb
y dull. Addaỽ a oruc paỽb herwyd y gyuoeth
y niuer goreu a allei yn borth y arthur. Ac yna
y caffat o ynys prydein e hun. heb yr hyn a
adaỽssei howel uab emyr llydaỽ Tri ugein
mil o uarchogyon aruaỽc. Ac o|r ynyssed
nyt amgen. Jwerdon. Ac islont. Ac godlont.
Ac orc. A llychlyn a|denmarc. y riuỽyt. Chwe
ugein mil o pedyt Canyt aruer marchogy+
on gantunt. Ac o freinc. O rỽytỽn. A phor+
tỽn. A nord·mandi a cenoman a pheitaỽ ac
angỽy. y riuỽyt. Petwar ugein mil o uar+
chogyon aruaỽc. Ac y gan y deudec gogyuurd
o freinc y riuỽyt. Deu cant a mil o uarchogy+
on aruaỽc. Sef oed eirif hynny oll ygyt o
uarchogyon. Deu cant a|their mil a phedwar
ugein mil a chan mil heb y pedyt yr hyn nyt
oed haỽd eu gossot yn rif. ~ ~ ~ ~ ~ ~ ~ ~ ~ ~ ~
AC gỽedy gwelet o arthur paỽb yn ymrodi yn lla+
wen yn|y wassanaeth Rodi canhyat y
« p 228 | p 230 » |