LlB Llsgr. Cotton Cleopatra B V rhan i – tudalen 158v
Brenhinoedd y Saeson
158v
yny delei o Jwerdon. Ac yna y peris parattoy llynghes y
vynet Jwerdon. A duw gwil Calixti pab yd ellynghaud
y llu yr llogheu. Ac y doeth gwynt gwrpwith ac a yrawt
y brenhin yr tir drachevyn. A gwedy ev dyuot Jwerdon y
trigassant yno y gayaf heb arguwedu dim ar y gwidyl.
Anno.ijo. y bu marvolayth maur ar lu y brenhin rei o
newin. ereill o newyd bwydev. ereill o diffic na ellyt dwyn
kyfnewidiev ar vor yn amser gayaf. yn|y vlwydyn honno
y bu varw Catwaladyr ap Grufud ap kynan. Ac y doeth
y brenhin yn wythnos y diodeifein hyt yn penvro ac ychy+
dic o niver gyt ac ef. Ac adaw y varwineit a|y varcho+
geon yn Jwerdon. A hynny o achos kennadev y pab a rei
brenhin freinc. Ac yno y bu duw pasch a thrannoeth ac
y cafas Rys ymdidan ac ef yn talacharn yn mynet y tu
a lloegyr. A gwedy dyvot y loegyr o·honaw anvon a oruc
kennadev at Jorwerth ap Owein i erchi ydaw dyvot y ymdidan
ac ef ac y gadarnhau hedwch ryngthunt. Ac y doeth Owein
ap Jorwerth o arch y dat y dyuot gyt ac ef y lys y brenhin. Ac y
doeth gwyr Jarll brustov o caer dyf ford y castell newyd
ar wysg ac y lladassant ef yn was ievanc klotvaur. A
gwedy menegi hynny yw dat ac y howel y vraut ac yr
lleill a oed vn ac wynt. nyt ymdiredassant yr brenhin
o hynny allan namyn gwneithur gwaethaf ac y gellynt
ar gyvoeth y brenhin o lad a llosgi ac anreithaw heb dru+
gared. hyt yn kaer low a hyt yn henford. Ac yna y gwnaeth
y brenhin Rys ap Grufud yn vstvs ar deheubarth kymre.
ac yntev a aeth y freinc heb olud. yn hynny mys aust y ca+
vas Seissill a dyvynwal a Jeuan ap seissill ap Ririt. castell
Aber Gevenny o dwyll y gan wyr y brenhin. Anno.iijo. y bu
yr hin decgaf yn amser gayaf hyt difiev kyuarchavel ac
yna y doeth taranev a glaw a chenllysc a|thorri bric y coet
hyt y daear. ac yssu o bryvet y deil yn llwyr hyt na alley y
gwydvilot ymborth. Ac y peryglavt llawer o|r bobyl ac
« p 158r | p 159r » |