LlGC Llsgr. Llanstephan 27 (Llyfr Coch Talgarth) – tudalen 102v
Y Groglith
102v
idaỽ y gan yr athro. y mae vy amser i yn agos y·gyt a|thi y
gỽnaf|i a|m disgyblon vym pasc. a megys yd erchis iessu ud+
unt y gỽnaeth y disgyblon. a pharattoi y pasc a|orugant.
ac am|bryt gosper kyfeisted a|oruc iessu gyt a|e deudec ebystyl.
ac ual yd oedynt yn bỽyta y dywaỽt ef. Mi a dywedaf yỽch yn
ỻe gỽir panyỽ vn ohonaỽch a|m ryd i. ac yna y trista·yssant ỽy.
ac y gouynnaỽd paỽp o·nadunt. ae myui. ae minneu. Y neb ys+
syd yn rodi y laỽ yn|y dysgyl y·gyt a mi hỽnnỽ a|m ryd mab
dyn ual yd ysgriuennỽyt ohonaỽ. ac eissyoes gỽae ef hỽn+
nỽ. yr|hỽnn y rodir mab dyn trỽydaỽ. da vuassei idaỽ na
enit. Ac yna y gouynnaỽd Judas ae my·ui a|th ryd di. ~
Hynny a dywedeist heb ynteu. ac ual yd oed·ynt yn bỽyta
y kymerth iessu y bara. a|e vendigaỽ a|e dorri. a|e rodi y
disgyblon. a dywedut ỽrthunt. kymerỽch. a|bỽyteỽch. hỽnn yỽ
vyng|corff|i. a chymryt y karegyl a|e rodi udunt a|dywedut
Y·vet baỽp ohonaỽch o hỽnn. kanys hỽnn yỽ vyng|gỽaet i
yn|y dỽydedyf a oỻyngir dros uadeueint y lawer oc eu pech+
odeu. Mi a dywedaf y·ỽch beỻach nat yfaf|i o|r kyfryỽ win
hỽnn hyt y dyd y bỽyf y·gyt a|chỽi yn yfet yn|teyrnas vyn
tat. A gỽedy daruot eu hemyn udunt yd aethant y vynyd
oliuet. ac yna y dywaỽt iessu ỽrthunt. Paỽb o·honaỽch a
diodef teruysc o|m achaỽs i heno. kanys ysgriuennedic yỽ.
Mi a|drawaf y bugeil. ac odyna y gỽasgarant y deueit o|r
kadỽ. ac eissyoes gỽedy kyuottỽyf|i. mi a|ỽch rac·ulaenaf yng
galilea. Ac yna yd attebaỽd pedyr idaỽ. kyt ymwahano paỽp
a thydi nyt ymwahaf*|i vyth. Mi a|dywedaf ytt yn wir heb+
yr|iessu. kynn kanu heno o|r keilyaỽc yd ymwedy deirgỽeith
a mi.
« p 102r | p 103r » |