LlGC Llsgr. Llanstephan 27 (Llyfr Coch Talgarth) – tudalen 37r
Ymborth yr Enaid
37r
rym keudaỽt. kiwdaỽt dynaỽl. Yn|kanu gỽaỽt. y duỽ trindaỽt
diwael undaỽt. un demyl dỽywaỽl. Maỽl diletryt. y|r tat maỽr+
vryt. a|r glan yspryt kywyt kyweir. Molyant mebyt. meibyon
y byt. y vab gỽyn·vyt gỽynvydic veir. Maen dineudaỽt o|n ke+
in·volaỽt. yn kanu gỽaỽt. gwaet heb vn·geir. Y gyfundaỽt teir
personaỽt. tragywyddaỽt*. undaỽt y gỽneir amen. A hynny
yd|oed y meibyon merthyri gỽerydon. yn|y ganu yn wastat heb
orffowys. ac ỽrth yr ysginn o bali fflamgoch yd oed pan o|r er+
min man·vrith yn arỽydockau y perigloryon. Rei o·nadunt o+
nadunt o gor·canheitrỽyd y gỽerydon. Ereiỻ o gethinder y
penyt·dynyon gỽedwon. A ỻinin o eurỻin o|r ysgỽyd y gilyd idaỽ
a maen karbonklus ar bop ysgỽyd yn kynnal deu·penn y ỻi+
nin. a restyr o eur kyflet a|ỻaỽ yn gogylchynu yr ysginn yn
gyflaỽn o rudemeu a gỽynn·emmeu yn rỽymedigyon yn|yr
eur. ac ymdanaỽ yr oed gỽregis o gywreinweith wedy ry wehu
o van adaued eur yn gyflaỽn o werthuaỽrussyon emmeu. a
maen karbỽnklus ỻewychlathyr yn waec arnaỽ. a gỽaeỻ o ̷
rudeur yn kaeu arnei. a|maen mererit disgleirwynn yn|benn
ar y|gỽregis. ac nyt oed ỽrthaỽ namyn inseil o eur wedy ry ys+
gythru yndi taryan. ac yndi y groc a|r ketri* a|r goron drein.
a|r gỽaeỽ a|r arueu ereiỻ oỻ y godefaỽd crist ac ỽynt. ac a
honno yr inseilit caỻonneu ffydlonyon crist a|e henweu yn
ỻyuyr y uuched. ac am benn yr arderchaỽc vab yr|oed coron
o eur perffeith·gỽbyl. ac yn rỽymedigyon yn|yr eur deugein
mein o amherodron mein gỽerthuaỽrussyon. A|r aduỽynuab
a|oed yn kyfeisted kadeir aduỽyndec o asgỽrn eliphant. disgleir+
lathyr ganheitrỽyd yn rỽymedic o|bop mann o wiỽyon lafneu.
« p 36v | p 37v » |