LlGC Llsgr. 3035 (Mostyn 116) – tudalen 47v
Brut y Brenhinoedd
47v
Ac yn ol eluyd y doeth clydaỽc. Ac yn ol clydaỽc y doeth
clydno. Ac yn ol clydno y doeth gorỽst. Ac yn ol gorỽst
ẏ doeth meiryaỽn. Ac yn ol meirẏon y doeth bleiddut
Ac yn ol bleiddut y|doeth kaph. Ac yn ol kaph y doeth
owein. Ac yn ol owein y doeth Seissyỻ. Ac yn ol seisyỻ
y doeth blegywrẏt. Ac ny bu yn yr ossoed kywydaỽr
kystal ac ef Ac rac daet y kanei y gelwit duỽ y
gỽaryeu. Ac yn|y ol ynteu y doeth armael y vraỽt
Ac yn ol arthmael y doeth eidol. Ac yn ol eidol y doeth
Rydyon. Ac yn ol rydyon y doeth ryderch. Ac yn ol ry+
derch y doeth sawyl ben vchel. Ac yn ol sawyl y|doeth
pyrr Ac yn ol pyrr y doeth kapoẏr. Ac yn ol kapoẏr
y doeth Manogan y vab gỽr prud hynaỽs oed hỽnnỽ.
Ac yn ol manogan y doeth beli maỽr y vab ynteu A
deugein mlẏned y bu vrenhin beli ar ynys brydein
A|thri|meib a vu idaỽ. ỻud a|chaswaỻaỽn a|nynyaỽ. A
gỽedy marỽ beli maỽr y drychafỽyt ỻud y|mab hynaf
idaỽ yn vrenhin y gỽr a vu gỽedy hẏnẏ ogynedus adei+
ladỽr kaeroed a|chestyỻ a dinassoed ereiỻ. Ef a atgywei+
rỽys tyroed ỻundein a|e muroed A chyt bei idaỽ lawer
o|dinassoed ereiỻ hỽnnỽ eissoes a garei yn vỽy no|r vn.
Ac ỽrth hẏnnẏ y gelwit kaer lud A gỽedy hẏnẏ drỽy
lygru y henỽ y gelwit ỻundein A|phan vu varỽ ỻud
y cladỽyt yn ỻundein ger ỻaỽ y porth a elwir etwa o|e
enỽ ef porth ỻud. yn saesnec lud·ysgat. A|deu vab a vu
idaỽ. auarỽẏ. a|theneuan. A|phan vu varỽ ỻud nyt oed
oet ar vn onadunt val y geỻit y|wneuthur yn vrenhin
Ac ỽrth hynnẏ y|gỽnaethpỽyt kaswaỻaỽn eu hewythyr
yn vrenhin. Ac ymdrychafel a|wnaeth ynteu yn haelder
a dayoni yny yttoed y volyant dros y teyrnassoed peỻaf
« p 47r | p 48r » |