LlGC Llsgr. Peniarth 11 – tudalen 117r
Ystoriau Saint Greal
117r
A gỽedy daruot roi y mab yn|offrỽm. y meudỽy a|e roes ynteu ar
yr aỻaỽr. A|gỽedy hynny ef a|dechreuaỽd aberthu. Yna arthur a|oed
aỻan ar tal y deulin yn maedu y dỽyvronn o wir ediuarỽch am y be+
chodeu ac yn|gỽediaỽ duỽ. A|phan dechreuwyt yr aberth ef a|welei
y·rỽng dwylaỽ y meudwy sant. gỽr a|e ystlys a|e|dwylaw a|e|draet
yn waetlyt a|choron o|drein am y|benn. a hynny yn|y briaỽt ffuryf.
A|gỽedy daruot y arthur edrych talym ar y weledigaeth honno ef
a|difflannaỽd y ganthaỽ hyt na wybu ef pa le. Trist a|govydyus
vu gan arthur am yr hynn a|weles ar y gỽr. a|goỻỽng dagreu
a|oruc ef o dristit. A|gỽedy daruot canu yr offeren. vn o|r engylyon
a|dywaỽt. Jte missa est. Ac odyna y|mab a gymerth y vam erbyn
y ỻaỽ. ac ymdifflannu a|wnaethant o|r|capel. ac y·gyt ac ỽynt y
gedymdeithyas vỽyhaf o engylyon. a heuyt y fflam a|dathoed drỽ+
y y ffenestyr a|difflannaỽd y·gyt a|r|kedymdeithyon hynny ~
P an|daruv y meudỽy wneuthur y wassanaeth ef a|doeth
att arthur yr|hỽnn a|oed yn|y drỽs etto. ac a|dywaỽt ỽrth+
aỽ. arglỽyd. ti a|eỻy dyuot y myỽn beỻach. a gỽynn oed dy vyt ti
pei haedassut kymeint ar duỽ a gaỻel dyuot yr dechreu yr offeren.
Ac yna y brenhin a|doeth y myỽn heb lesteir arnaỽ. Arglỽyd heb
y meudwy myui a|th atwaen di yn|da. a|mi a|atwaenỽn heuyt
uthur benndragon dy dat ti. Ac o|achaỽs dy bechaỽt ny eỻeist
di dyuot y myỽn hediỽ tra|ganỽyt yr offeren. ac nys geỻy vyth
yny darffo ytt ymendau dros dy bechodeu y duỽ ac o|e|seint y|rei
yr ys yn eu hanrydedu yma yn wastat. Y·gyt a|hynny heuyt
ti a|dylyut wybot nat oes yn yr hoỻ vyt brenhin kyn gyuoetho+
ket na chyn gadarnet na|chyn amlet anturyeu da idaỽ ac ytti
« p 116v | p 117v » |