Llsgr. Caerdydd 1.362 (Hafod 1) – tudalen 61r
Brut y Brenhinoedd
61r
ry syrthỽys e|hun yn y magyl a ranỽys y rei gwiry+
on. kans pan ỽybu y saesson y enwired ef. ỽynt a|e
byrryassant ef o|e vrenhinyaeth. yr hyn nyt reit
y neb y gỽynyaỽ. kans euo yn yscymyn. A waho+
des pobyl yscymun attaỽ. Ac a duc tref eu tateu rac
y dylyedogyon. Ef a anreithỽys y wlat frỽythlaỽn.
Ac y distrỽyaỽd yr eglỽysseu ar gristynogyaeth o|r
mor y gilyd hayach. Ac ỽrth hynny y kiỽtaỽtwyr
dylyedaỽc dielỽch arnaỽ yn wraỽl trỽy yr hỽn y
caỽssoch y saỽl drỽc hỽn. Ac odyna ymhoylỽn yn
harueu yn an gelynyon. A rythaỽn y gỽlat y gan
eu gormes. Ac yn diannot dechreu ymlad ar kastell
trỽy pop keluydyt. A gỽedy na dygrynoes udunt
ỽy dim o hynny. Dodi tan yndaỽ. Ac yna y lloscet
y kastell a gỽrtheyrn yndaỽ. A gỽedy clybot o|r saes+
son hynny ofynhau a|wnaethont. kan clỽyssynt
nat oed neb a allei ymerbyneit ac emreis na gor+
thỽynebu idaỽ. Ac y gyt a|hynny hael oed am ro+
dyon. A gỽastat meỽn dyỽyaỽl wasanaeth a|hy+
naỽs ym pop peth. A thros pen pop peth. karu
gwirioned a chassau celỽyd. kadarn oed a deỽr ar
y troet A chadarnach ar varch. Doeth oed yn tyw+
yssaỽ llu ac yn|y llywyaỽ. A hyt tra yttoed yn lly+
waỽdyr o ryỽ deuodeu hynny yd ehedei y glot ar hyt
ynys prydein. Ac ỽrth hynny sef a|oruc y saesson
mynet yn gỽbyl hyt y parth draỽ y humur. Ac
yno kadarhau* y kestyll ar kaeroed ar dinassoed ar+
nadunt. kans y wlat honno a oed megys kedernyt
y estraỽn genedloed pan delynt y ffichteit ar yscot+
« p 60v | p 61v » |