LlB Llsgr. Cotton Cleopatra B V rhan i – tudalen 21r
Brut y Brenhinoedd
21r
deng mlyned a deugeint a phymp cant
a mil gwedy dwfyr diliw.
Ac yna y kymyrth Gorwst y vab ynteu llywo+
draeth y deyrnas. ac a|y gwledychawd seith
mlyned yn hedwch dagnauedus.
Ac yn|y ol ynteu y gwledychawd Seissill uab
gorwst chwech blyned.
A gwedy yntheu y gwledychawd Jago nei y
gorwst seith mlyned.
Ac yn|y ol ynteu y gwledychawd kynuarch
vab seissill. naw mlyned.
Ac yn nessaf y hwnnw y gwledychawt gwr
nyw digu vab kynuarch. Ac y hwnnw y|bu
deu vab. nyd amgen no feruex a phorrex a gwe+
dy ssyrthiaw eu tat yn heneint. y kyuodes teruysc
rwng y meibion am y kyuoeth. Ac y keisiaud
porrex llad feruex y vraud. A gwedy gwybod
o feruex hynny ef a foes hyt ar siward bren+
hin freinc y geisiaw y borth a|y nerth y oresgyn
ynys brydein i|ar y vraud. A gwedy caffel oho+
naw hynny gan brenhin freinc. ef a doeth a|y
lu hyt yn ynys brydein. Ac yn|y erbyn ynteu
y doeth porrex a|y lu. Ac yna y bu kyffranc calet
ac aerua vawr o boptu. Ac yno y llas feruex a|y
lu. A gwedy gwybot o indon eu mam ry lad
o porrex feruex y vraud. Sef a oruc hitheu me+
dyliaw llad y mab bew yn dial y mab marw.
Ac val yd|oed porrex yn kysgu yn y ystauell di+
wyrnawd gwedy y vwyd. ef a doeth y vam yr
« p 20v | p 21v » |