LlGC Llsgr. Llanstephan 4 – tudalen 19v
Buchedd Dewi
19v
dolur yn|y lygeit. a galỽ a|oruc yr athro
attaỽ y hoỻ disgyblon ol yn|ol y geissyaỽ
y ganthunt ganhorthỽy am y lygeit. ac
nyt yttoed yr un yn|y aỻel idaỽ. ac yn
diwethaf oỻ galỽ dewi a|oruc. Dauyd
heb yr athro edrych vy ỻygeit y maent
y|m poeni. Arglỽyd athro heb·y dauyd
nac arch y mi edrych dy lygeit. yr ys
deg mlyned y deuthum i attat ti y
dysgu ac nyt edrycheis etto y|th wy+
neb di. Sef a|oruc yr athro yna medy ̷+
lyaỽ a ryuedu y kewilyd a dywaỽt y
mab. kanys veỻy y mae heb ef ỽrth
y mab dyro dy laỽ ar vy wyneb a
bendicka vy ỻygeit a mi a vydaf.
hoỻ·iach. a phan|rodes dauyd y laỽ ar y ly+
geit ef y buant hoỻ·iach. Ac yna y
bendigaỽd paỽlinus dauyd o bop bendith
o|r a|geffit yn ysgriuennedic yn|y dedyf
hen ac yn|y newyd. Yna y doeth angel
att baỽlinus a|dywedut ỽrthaỽ ual hynn.
Amser heb ef yỽ y dauyd sant vynet
odyma y wneuthur y petheu yssyd
dyghetuen idaỽ y gan duỽ eu gỽneu+
thur. Odyna y doeth dewi hyt yg|glas+
tynbri. ac yno yd adeilyaỽd ef eglỽys.
« p 19r | p 20r » |