LlGC Llsgr. 3035 (Mostyn 116) – tudalen 80r
Brut y Brenhinoedd
80r
A gỽedy kymryt kedernit y|gantaỽ ac aruoỻ yd eỻygỽyt
A gỽedy gỽelet o ỽrtheyrn y truan aerua hono Ar y brio+
doryon y gan yr yskymẏn bobyl. Sef a oruc ynteu kilyaỽ
parth ac ymyleu kymry. kany ỽydat beth a wnaei yn
erbẏn yr yscymyn bobyl honno.
A galỽ a oruc gỽrtheyrn attaỽ hoỻ doethon a|henaf+
duryeit yr ynys A gofyn vdunt beth a wnaei ỽrth
hynẏ. Ac yna y kyghoret idaỽ adeilat kasteỻ ka+
darnaf a aỻei yn|y ỻe kadarnaf a gaffei. Megys y bei
hỽnỽ yn amdiffyn idaỽ kan coỻassei oỻ y ỻeoed kadarn
o|e gyuoeth A gỽedy crỽydraỽ ohonaỽ ỻawer o|leoed
y geissaỽ y|ryỽ le hỽnỽ o|r diwed y doeth hyt y|mynyd
erryri. A gỽedy kaffel ohonaỽ y ỻe y|bu adas gantaỽ
gỽneuthur y kasteỻ kynuỻaỽ a|wnaethpỽyt hoỻ seiri
mein o|r a aỻỽyt y gaffel ac eu dỽyn hyt yno. A gỽe+
dy dechreu gossot y grỽndywal onadunt kymeint
ac a wnelit y|dyd o|r gỽeith. tranoeth pan gyuottit neur
daruydei y|r dayar y|lyncu heb ỽybot dim y|ỽrthaỽ mỽy
no chyny ry|ffei eiroet vch y|dayar A gỽedy menegi
hyny y ỽrtheyrn. gofyn a|wnaeth y|ỽ dewinyon beth
a wnaei hynẏ Ac yna yd erchis y dewinyon idaỽ keis+
saỽ mab heb dat idaỽ A|e lad a chymysgu y waet a|r
kalch ac iraỽ y mein a|r kalch a|r gỽaet hỽnỽ. a|dineu
y gỽaet yn y grỽndywal hyt pan safei y gỽeith veỻy
Ac yna yd anuonet y bop ỻe y geissaỽ y kyfryỽ uab
hỽnỽ. A gỽedy dyuot deu o|r kenadeu hyt y dinas
a elwit gỽedy hynẏ kaer vyrdin. Na·chaff y gỽelynt
nifer o weisson jeueinc yn gỽare yn drỽs porth y dinas
A sef a wnaeth y kenadeu dynessau y edrych ar y gỽare
ac eisted yn ỻudedic dyffygyaỽl Ac ymwarandaỽ
« p 79v | p 80v » |