LlGC Llsgr. 3036 (Mostyn 117) – tudalen 248
Brut y Brenhinoedd
248
a syberwyt y rei a| uydynt gynt yn wastat yn sychet+
occau guaet ac anuundeb a theruysc rỽg eu kiỽt+
aỽtwyr e| hun. Yuelly yuelly* genedyl truan ynys
prydein y guenheeist ti. kanys titheu kyn no hynny
a| gymhelleist kenedloed y teyrnassoed pell y ỽrthyt
y darestỽg itt. Ac y weithon megys guinllan yd ỽyt
titheu guedy ry ymchoelut yn werwed a cheithiỽ
hyt na elly bellach amdiffyn dy wlat na|th wraged
na|th veibon o laỽ dy elynyon. Ac ỽrth hynny truan
syberỽ genedyl kymer dy penyt. Ac ednebyd y geir
a| dyweit yr arglỽyd yn yr euegyl. Pop teyrnas ar
ranher ac a wahaner yndi e| hun a distrywir ac a diffe+
ithir. A thy a syrth ar y| gilyd. Ac ỽrth hynny kanys
ymlad ac anuundeb y giỽdaỽt e| hun A mỽc teruysc
a| chyghoruynt a| tywyllỽys dy vryt ti. kanys dy
syberwyt ti ny mynnỽys ufydhau y vn brenhin.
ỽrth hynny y guely titheu y creulonhaf paganyeit
yn distryỽ dy wlat. Ac yn bỽrỽ y tei ar torr y gilyd
yr hyn a| wyl dy etiued hyt dyd braỽt. kanys ỽynt
a| welant estronyon genedloed yn medu eu tei ac
eu trefneu. Ac eu kestyll ac eu dinassoed Ac eu tref
tat o rei y maent deholedic ac yspeiledic. y rei onyt
duỽ a|e peir ny allant eu kynydu byth trachefyn
A Guedy daruot yr creulaỽn yscymunedic hỽn+
nỽ a guyr yr affric ygyt ac ef anreith yr y+
nys a|e llad a|e llosci o|r mor pỽy gilyd megys y| dy+
wespỽyt uchot y rodes ef loegyr yr saesson. kanys
« p 247 | p 249 » |