LlGC Llsgr. Peniarth 11 – tudalen 120r
Ystoriau Saint Greal
120r
mab y efraỽc iarỻ yỽ o|lynn camalot. A|e henỽ ynteu yỽ peredur.
Paham heb·yr arthu˄r y gelwir ef peredur. achaỽs heb hi pan a+
net y mab y peris y|dat roi arnaỽ yr henỽ hỽnnỽ. par dur. kanys
arglỽyd y corsyd oed yn ryuelu ar efraỽc. a|gỽedy dỽyn y arnaỽ laỽ+
er o|e gyfoeth. am hynny y roespỽyt ar y mab peredur yr dyuot
cof idaỽ pan vei yn|wr gymryt par o|dur. neu ynteu o nerth par
o|dur dial ar arglỽyd y corsyd a|wnathoed a|e dat am|dỽyn y dir y
arnaỽ. Ac ueỻy y mab a uagỽyt yny vu yn was ieuangk tec. a|e
datmaeth a|e vam yn|y garu yn vaỽr. A|diwarnaỽt yd aethant
y chware yn ymyl eu casteỻ o vyỽn fforest. ac y·rỽng y fforest
a|r casteỻ yd oed capel gỽneuthuredic ar warthaf pedeir colofyn
o vaen marmor gỽynn. ac o vyỽn y capel yr oed aỻaỽr. ac yn ym+
yl yr aỻaỽr yr oed ysgrin dec. a|delỽ gỽr arnei. Ac yna govyn a|oruc
y|mab o|e dat pỽy bioed yr ysgrin. a|e dat a|dywaỽt na|s gỽydyat
ef pỽy. kanys heb ef hyn yỽ yr ysgrin no that vyn tat i. Ac ny
chiglef eirmoet dywedut beth oed yndi. namyn ỽynt a dyw+
edynt pan delei y milỽr goreu neu yr eil goreu o|r hoỻ vyt. Pa+
nyt ymegyr yr ysgrin y|r neb ual y gỽeler beth yssyd yndi heb·yr
arthur. neu po ny bu yno yr|hynny hyt hediỽ vn milỽr na
marchaỽc urdaỽl o|r byt. Bu arglỽyd heb hitheu. ar ny eỻir
eu hamcanu nac eu rifaỽ. Ac yr hynny nyt ymagores yr ys+
grin yrdunt. Pan|daruu o|e|dat ymdidan a|e vab yn|y mod
hỽnnỽ. ỽynt a|ymchoelassant adref y|r casteỻ. Pan vu dyd
drannoeth y|mab a|gyuodes y|uyny. ac rac tecket oed y dyd
ef a|gymerth vn o veirch y dat ac a|doeth y|r fforest a|dyrneit
o aflacheu ganthaỽ herwyd mod y kymry yn|yr amser hỽnnỽ.
« p 119v | p 120v » |