LlGC Llsgr. Peniarth 11 – tudalen 122r
Ystoriau Saint Greal
122r
ynteu y gỽnaf kanys ny bum chwannogach eirmoet.
E ma* y mae yr ymdidan yn traethu ac yn|dywedut
vot arthur yng|kaer llion ac ychydic o varchogyon
urdolyon gyt ac ef. ac ewyỻys da gỽedy ry|dyuot idaỽ y gan
duỽ y vot yn hael ac y wneuthur pob enryded. Yna y peris ef
wneuthur ỻythyreu o|e hanuon dros gỽbyl o|e deyrnas y erchi
y baỽp dyuot y lys ef yr honn a|elwit penneissense. honno
a|oed yn ymyl mor kymry. a hynny erbyn gỽyl ieuan hanner
haf. a|ỻyna yr ystyr paham y mynnei ef wneuthur y wled
yng|gỽyl ieuan. am vot y sulgỽynn mor agos ac yr|oed. ac am
na aỻei y rei a|oed ym|peỻ dyuot yno erbyn y sulgỽynn. Y chỽ+
edleu newyd hynny a|aeth y bop ỻe y erchi y baỽp dyuot yno erbyn
yr amser enwedic. A|ryued vu gan|baỽp pa ystyr y doeth y|r bren+
hin yr|ewyỻys hỽnnỽ. a|chỽbỽl o varchogyon y vort gronn y
rei a|oedynt wedy ymwasgaru y|mhop gỽlat a|doethant yno
pan glywssant y chỽedleu hynny. namyn gỽalchmei a|laỽns+
lot a|pharedur. ~ ~ ~
D vỽ gỽyl ieuan a|doeth a|r marchogyon urdolyon a
oedynt wedy dyuot o bop ỻe y rei a|oedynt yn ry·uedu
paham na wnathoed y brenhin y wled honno y sulgỽynn.
Eissyoes ny wydynt ỽy yr ystyr. Y dyd oed dec ac eglur. a|r
neuad oed vaỽr ac ehalaeth. ac amyl oedynt y marchogyon
urdolyon. Yna y brenhin a|r|vrenhines a|aethant y ymolchi
ac a|aethant y eisted. a|phaỽp y am hynny a vedraỽd y gyfle.
Ac yr|oedynt o varchogyon urdolyon ỽrth rif mỽy no chant
herwyd ual y|dyweit yr ystorya. ac owein uab uryen a|chei hir
« p 121v | p 122v » |